Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Cyfarwyddiaeth Cynllunio Chyflawni Ariannol
Gradd 8c
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Sefydlwyd y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol (“y Gyfarwyddiaeth”) i ddarparu cymorth proffesiynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i a chyflawni’r heriau ariannol sy’n wynebu GIG Cymru. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gweithredu ledled Cymru ac yn cefnogi holl sefydliadau GIG Cymru yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys:
Monitro a rheoli risg ariannol yn GIG Cymru, gan ymateb yn gyflym pan fo sefydliadau’n dangos arwyddion o bryder ariannol.
Cefnogi datblygiad cadarn a chyflwyniad cynlluniau ariannol ac adnoddau yn ystod y flwyddyn a dros y tymor canolig.
Gyrru’r Agenda Gwerth a Chynaliadwyedd ar gyfer GIG Cymru, gan weithio gyda sefydliadau GIG Cymru i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd a gwelliant yn cael eu cyflawni.
Hyrwyddo ac ymgorffori arfer gorau o ran rheolaeth ariannol a defnyddio adnoddau.
Datblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Gwybodaeth a Deallusrwydd Ariannol, sy’n adlewyrchu costio, meincnodi, dyrannu adnoddau, a’r defnydd a wneir ohonynt, i helpu i ysgogi gwelliannau o ran effeithlonrwydd technegol a dyrannol ar draws GIG Cymru.
Cefnogi datblygiad Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth o fewn GIG Cymru yn ôl yr angen.
Bydd y Gyfarwyddiaeth yn cyflawni'r agenda hon drwy feithrin perthnasau effeithiol o fewn ac ar draws Gweithrediaeth y GIG, GIG Cymru, a Llywodraeth Cymru, ac yn galluogi ‘r amcanion hyn i gael eu cyflawni.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Gyfarwyddiaeth yn cyflawni'r agenda hon drwy feithrin perthnasau effeithiol o fewn ac ar draws Gweithrediaeth y GIG, GIG Cymru, a Llywodraeth Cymru, ac yn galluogi ‘r amcanion hyn i gael eu cyflawni., a thimau eraill GIG Cymru gan gynnwys Cyfarwyddiaethau eraill o fewn Gweithrediaeth GIG. Mae'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol yn angerddol am bobl a datblygiad proffesiynol, gyda rhaglen ddatblygu uchelgeisiol ar gyfer y tîm cyffredinol a holl aelodau'r tîm. Mae’r rôl hon yn gyfle delfrydol i rywun sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau ar draws agenda genedlaethol eang a chyffrous.
Eich cyfrifoldebau fydd darparu uwch arweinyddiaeth i elfennau penodol o bortffolio’r Uned, sy’n cynnwys:
- Darparu rôl cyswllt sefydliadol uniongyrchol i nifer o sefydliadau GIG Cymru;
- Darparu cymorth a her i sefydliadau GIG Cymru penodol yn unol â Threfniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd Llywodraeth Cymru;
- Rhoi arweiniad ariannol i bwyllgorau a rhaglenni cenedlaethol sy'n archwilio cyfleoedd i wella gwerth a chynaliadwyedd ariannol o fewn GIG Cymru;
- Darparu'r rôl cymorth cyllid arweiniol i arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru o fewn rhaglenni allweddol y GIG; ac
- Arwain ar ran y Gyfarwyddiaeth, y gwaith o reoli perthnasoedd a dysgu gan randdeiliaid allanol allweddol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Os ydych chi’n weithiwr cyllid proffesiynol profiadol, cymwysedig a llawn cymhelliant a’ch bod yn gallu dangos gefndir cadarn ym maes perfformiad, deallusrwydd, cyflawni a rheoli ariannol, yna byddem yn awyddus i glywed gennych chi ac yn croesawu eich cais.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Wedi ennill cymhwyster CCAB / CIMA ac yn Aelod o Gorff Proffesiynol
- Wedi cael addysg i lefel Ôl-radd neu gyfatebol, Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau Rheoli Prosiectau / Rhaglenni, Tystiolaeth o ymchwil personol i faes clinigol, ariannol neu reolaeth
- Tystiolaeth o ymchwil personol i faes clinigol, ariannol neu reolaeth
PROFIAD A GWYBODAETH ARBENIGOL
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth yn gweithio ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth mawr, Profiad y gellir ei brofi o ddatblygu a chyflawni gwasanaethau rheoli ariannol yn llwyddiannus ar gyfer sefydliad mawr.
- O leiaf bum mlynedd o brofiad fel uwch reolwr cyllid yn y GIG
- Hanes o gyfraniad effeithiol at lunio strategaethau busnes, Profiad o gynllunio a gweithredu rhaglenni datblygu hirdymor.
- Profiad o feddwl yn strategol ar lefel uwch, Y gallu i ddylanwadu ar bob lefel ac yn feddyliwr hynod strategol
- Llwyddiant blaenorol o gyflwyno camau i wella gwasanaethau neu o reoli newid sefydliadol mawr mewn amgylchedd cymhleth. Cyfranogi mewn prosiectau rheoli newid mawr
- Profiad sylweddol o weithio gyda staff, eu cynrychiolwyr a sefydliadau proffesiynol. Llwyddiant y gellir ei ddangos yn adeiladu, arwain, cymell, rheoli a datblygu timau.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddulliau Cwblhau ac Ymyrraeth ac o’u darparu, Yn dangos arbenigedd mewn meysydd proffesiynol penodol
- Gwybodaeth dda am gyfundrefn gyllid GIG Cymru, gan gynnwys dealltwriaeth drylwyr o ddyletswyddau ariannol, cyfrifoldebau a gofynion llywodraethu sefydliadau, Dealltwriaeth dda o gysyniadau Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth
SGILIAU A GALLU
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddadansoddi a chyflwyno’n briodol wybodaeth sy’n aml yn hynod gymhleth, Sgiliau dadansoddi rhagorol, gan gynnwys y gallu i adnabod ystyriaethau allweddol o amrywiol ddata cymhleth, Y gallu i ddehongli gwybodaeth ansoddol a meintiol gymhleth a rhoi cyngor i uwch arweinyddion
- Y gallu i gyfathrebu’n rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ffordd sy’n glir, yn rhugl ac yn argyhoeddiadol
- Yn llawn ysgogiad ac yn ymroddedig i ddatblygu chi eich hun ac aelodau’r tîm. Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun a threfnu eich llwyth gwaith chi a’r tîm er mwyn gweithredu’n effeithiol. Y gallu i weithio’n annibynnol yn unol â chylch gorchwyl penodol, gan sicrhau y glynir wrth yr amserlenni a’r amcanion y cytunwyd arnynt
- Yn gallu dangos lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol, gan arddangos hygrededd, dylanwad a chraffter gwleidyddol. Gallu blaenorol i gyrraedd targedau a chyflawni amcanion mewn amgylchedd heriol a dan bwysau mewn amserlenni heriol.
- Sgiliau bysellfwrdd safonol
- Sgiliau barnu, penderfynu, a threfnu cadarn. Yn gallu dehongli deddfwriaeth a chanllawiau fel y bo’n briodol i’r rôl.
Meini prawf dymunol
- Y gallu a’r hyder i herio’n adeiladol a chefnogi uwch staff y GIG a’u timau
- Y gallu a’r hyder i ddangos arweinyddiaeth ar draws GIG Cymru ar ysgogi gwelliannau mewn gwaith cynllunio ariannol a rheoli ariannol
CYMERIAD
Meini prawf hanfodol
- Agwedd briodol gyda lefel dda o uniondeb a moeseg broffesiynol, Brwdfrydig, Ymroddedig, Rhagweithiol, ac Arloesol
GOFYNION ERAILL
Meini prawf hanfodol
- Rhaid ichi fod yn symudol a gallu teithio’n lleol ac yn genedlaethol. Yn emosiynol ddeallus. Yn wleidyddol graff ac â greddf dda. Gweithio’n gydweithredol a meithrin perthnasoedd yn effeithiol. Gwytnwch a dibynadwyedd dan bwysau. Yn awchu am her, gyda lefel dda o uniondeb personol.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mrs Maria Eyre
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector