Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rheolwr Ymgysylltu a Datblygu
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC125-0624
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Cwmbrân
- Tref
- Pont-y-pŵl
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr
![GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/55.png)
Swyddog Gwasanaethau Ymgysylltu
Band 5
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr adran Gwasanaethau Clinigol Proffesiynol i Swyddog Gwasanaethau Ymgysylltu ymuno â'r tîm Cymorth Busnes.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli’r tîm gweinyddol a leolir yn Nhŷ Cwmbrân, Pont-y-pŵl. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu gweithio’n ystwyth a bydd disgwyl iddo weithio yn y swyddfa am ddau ddiwrnod yr wythnos.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Drwy weithio’n rhan o Wasanaethau Gofal Sylfaenol PCGC, byddwch yn derbyn nifer o fuddion rhagorol gan gynnwys;
Trefniadau gweithio hyblyg
Cyfleoedd Dysgu a Datblygu
Disgowntiau'r GIG mewn cannoedd o siopau
Cynllun Pensiwn y GIG
Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff blynyddol
Lwfans gwyliau blynyddol hael
Gweithio i'n sefydliad
Mae gennym safonau uchel ac rydym yn disgwyl i bawb ymgorffori ein gwerthoedd Gwrando a Dysgu, Gweithio Gyda'n Gilydd, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi, tra'n sicrhau bod ymddiriedaeth, gonestrwydd a thosturi yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Rydym yn hyblyg, yn ystwyth ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn sefydliad sy’n dysgu, lle mae’n ddiogel gwneud camgymeriadau, lle caiff bai ei ddisodli gan gyfleoedd i ddysgu a gwella. Mae arloesi yn rhan o bopeth a wnawn. Cydnabyddwn ein pobl yn rheolaidd trwy'r Orsaf Werthfawrogi, i annog staff i ganmol ymddygiad rhagorol ymysg ei gilydd ac fe gynhelir seremoni Gwobrau Cydnabyddiaeth Staff Blynyddol sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein pobl ac yn ymdrechu i greu diwylliant o dosturi a chynwysoldeb. Rydym yn sefydliad dwyieithog sydd â thîm o Hyrwyddwyr Newid sy’n hyrwyddo ‘Dyma Ein PCGC’ ein prif raglen newid. Yn yr un modd, BALCH yw ein rhwydwaith staff newydd sy’n croesawu cydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ i ddod ynghyd mewn man diogel i gael trafodaethau, i gynllunio digwyddiadau ac i gael y cyfle i adeiladu rhwydweithiau cefnogol. Mae gennym becyn buddion cynhwysfawr lle mae rhywbeth at ddant pawb. Mae’n cefnogi iechyd, ymgysylltiad a lles ac mae’n cynnwys Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Mae gennym dros 30 o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol a chenedlaethol i sicrhau llesiant a gwydnwch ein pobl.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio gydag uwch reolwyr.
- Profiad blaenorol mewn rôl cymorth gweithredol neu arweinyddiaeth.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o reoli prosiect.
- Profiad blaenorol o drefniadau gweithio corfforaethol.
Skills
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu cynhyrchu adroddiadau manwl, gan ddefnyddio MS Word a MS Excel.
- Yn gallu cynllunio a chyflawni’n llwyddiannus i ddyddiadau cau rhagnodedig.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o ddarparu hyfforddiant i grwpiau bach.
- Yn gallu cynnal archwiliadau rheoli.
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- ILM lefel 5 neu gyfwerth
- Gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â rheolaeth a gweithdrefnau gweinyddol swyddfa, gan gynnwys defnyddio ystod o raglenni meddalwedd cyfrifiadurol mewn swyddfa fodern.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol / gradd addas
- Gwybodaeth am reoli cyllideb ariannol o fewn y GIG.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ffion Thomas
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector