Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweinyddwr Graddio
Band 3
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i Weinyddwr Llawn Amser (37.5 awr yr wythnos) i ymuno â thîm Graddio Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru sydd wedi'i leoli yn ein canolfan yng Nglan-bad, Trefforest.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i'r adran Graddio mewn perthynas ag atgyfeiriadau cyfranogwyr i Wasanaethau Llygaid Ysbytai (HES), gan gynnwys diweddaru gwybodaeth sy'n berthnasol i'r atgyfeiriad ar gofnod electronig y cyfranogwr.
Cydlynu dosbarthiad amserol adroddiadau cryno i holl Wasanaethau Llygaid Ysbyty i sicrhau bod atgyfeiriadau DESW wedi'u derbyn a'u gweithredu o fewn gwasanaethau Gofal Eilaidd.
Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer holl staff HES mewn perthynas ag atgyfeiriadau cyfranogwyr, i sicrhau bod derbyniad atgyfeiriad yn cael ei gadarnhau a darparu copïau ar gyfer unrhyw rai sydd eu hangen.
Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, sy'n gofyn am y gallu i ymdrin ag ystod eang o dasgau a therfynau amser. Mae gofyn bod yn drefnus a gallu blaenoriaethu a chynllunio eich lwyth gwaith er mwyn cyflawni eich amcanion. Mae angen lefel uchel o gywirdeb wrth fewnbynnu gwybodaeth a data llwybr cyfranogwyr i'r system rheoli gwybodaeth.
Mae’n bosibl y bydd angen gweithio gyda'r nos/penwythnos yn achlysurol.
Os oes gennych chi'r profiad perthnasol a'ch bod chi'n hunan-gymhellol, gyda'r gallu i reoli a blaenoriaethu ystod o dasgau cystadleuol yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dyletswyddau craidd
Gan weithio gyda'r Uwch Raddiwr/Rheolwr Graddio, dilysu rhestrau ac adroddiadau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno system gadarn a di-ffael ar gyfer llwybrau atgyfeirio HES.
Adolygu ac ymchwilio i ddemograffeg cleifion a chofnodion rheoli cleifion
Diweddaru cofnodion rheoli cleifion yn unol â pholisïau a gweithdrefnau gweithredu safonol y cytunwyd arnynt
Prosesu gwiriadau wrth gefn allweddol
Cydgysylltu ag amrywiaeth o staff DESW, meddygon teulu ac adran HES i ddiweddaru llwybrau rheoli yn briodol
Delio â newidiadau atgyfeirio ac ymholiadau cyffredinol gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill
Rhoi gwybodaeth am ganlyniadau i gleifion, meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
Prosesu a diweddaru adroddiadau wrth gefn
Prosesu atgyfeiriadau nad ydynt wedi'u danfon ac wedi'u dychwelyd ac ymdrin â newidiadau i fanylion demograffig
Postio a ffrancio post yn awtomatig
Ffeilio
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am weithio mewn swyddogaeth weinyddol i gefnogi gweithrediad effeithlon swyddogaethau galw/ailalw ac wrth gefn yn yr Is-adran Sgrinio.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei recriwtio i gefnogi gofynion gweinyddu llwybr graddio Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Wrth i'r prosesau wrth gefn ymsefydlu o fewn y rhaglen, disgwylir y bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â'r holl ddyletswyddau gweinyddol graddio o fewn yr adran graddio.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw 'Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru'. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Rydym yn sefydliad sy'n rhoi ein hunain wrth wraidd cefnogi pobl, cymunedau, partneriaid a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r heriau mawr hyn a darparu atebion ar gyfer gweithredu.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Safon dda o addysg gyffredinol, TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu gymhwyster Lefel 2 cyfatebol, neu'r gallu i ddangos gwybodaeth berthnasol trwy brofiad gwaith.
- NVQ lefel 3 Gweinyddu Busnes neu lefel gyfatebol o wybodaeth a enillwyd trwy brofiad gwaith perthnasol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Raglenni Sgrinio
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad gweinyddol blaenorol
Skills and attributes
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Galluoedd trefnu ac amldasgio rhagorol
- Yn gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun i gwrdd â therfynau amser
- Sylw rhagorol i fanylion
- Hyfedr yn y defnydd o feddalwedd safonol Microsoft, megis Outlook, Teams, Word, Excel, PowerPoint.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg lefel 1, e.e. cyflwyno eich hun, cyfarch rhywun wyneb yn wyneb, ateb y ffôn gyda chyfarchiad Cymraeg wedi'i sgriptio
Other
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd i deithio i leoliadau sgrinio eraill os oes angen gan y gwasanaeth
- Oriau gwaith arferol fydd 09:00 i 17:00 gyda’r nos yn achlysurol a dydd Sadwrn os oes angen gan y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Wallace
- Teitl y swydd
- Grading Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 849322
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector