Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Cyflogaeth
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener (Amser Hyblyg))
- Cyfeirnod y swydd
- 043-AC109-0524-A
- Cyflogwr
- GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Alder
- Tref
- Llanelwy
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/55.png)
Swyddog y Gyflogres
Gradd 3
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd wag barhaol, llawn amser wedi codi ar gyfer Swyddog y Gyflogres o fewn yr Is-adran Gwasanaethau Cyflogaeth ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm a bydd yn darparu Gwasanaeth Cyflogres cyflawn a chynhwysfawr i weithwyr GIG Cymru. Ar adegau, bydd angen rheoli gwaith ei hun er mwyn sicrhau lefel uchel gyson o gyflawni perfformiad mewn modd cyfrinachol, atebol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cyflogres cynhwysfawr i weithwyr sefydliadau’r GIG sydd wedi'u contractio i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth.
Gweithio gyda Swyddogion y Gyflogres, Goruchwylwyr ac Arweinwyr Tîm eraill i sicrhau bod staff yn cael eu talu'n gywir ac mewn da bryd ac i sicrhau dull cyson o weithio. Goruchwylio Cynorthwywyr y Gyflogres o ddydd i ddydd
Darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i reolwyr a staff, a chynorthwyo uwch staff y gyflogres i adolygu prosesau’r gyflogres yn barhaus er mwyn helpu i nodi a gweithredu newidiadau i ddarpariaeth y gwasanaeth trwy ffyrdd gwell o weithio. Cynorthwyo uwch staff i weithredu systemau a gweithdrefnau newydd yn unol â deddfwriaeth newydd.
Sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn effeithlon ac yn effeithiol a chynnal cyfrifoldeb am feysydd penodol yn ymwneud â gweithgareddau cyflogres.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am y Gyflogres
Meini prawf dymunol
- Hanes blaenorol o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o Systemau Cyflogres Cymhleth
- Profiad blaenorol o weithio mewn swyddfa
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cyflogres prysur
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cydwasanaethau
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau cynllunio a threfnu da
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kelley Williams
- Teitl y swydd
- Payroll Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02921501103
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector