Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arweinydd Tîm y Gyflogres
Gradd 6
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd wag barhaol, llawn amser wedi codi ar gyfer Arweinydd Tîm Cyflogres o fewn Is-adran Gwasanaethau Cyflogaeth ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm ac yn darparu gwasanaeth cyflogres cyflawn a chynhwysfawr i weithwyr GIG Cymru. Ar adegau, bydd angen rheoli gwaith ei hun er mwyn sicrhau lefel uchel gyson o gyflawni perfformiad mewn modd cyfrinachol, atebol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg fel ei gilydd wneud cais. |
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cyflogres cynhwysfawr i gyflogedigion sefydliadau’r GIG sydd wedi'u contractio i PCGC (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru) trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth. Prif gyfrifoldeb am Dîm Cyflogres penodedig. Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer Sefydliad(au) penodol a sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn cyrraedd safonau ansawdd y cytunir arnynt trwy ddull sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Agwedd allweddol ar y rôl hon fydd adolygu polisïau a phrosesau’r gyflogres yn barhaus a nodi a gweithredu newidiadau i ddarpariaeth y gwasanaeth trwy hyrwyddo ffyrdd gwell o weithio o fewn PCGC a sefydliadau rhanddeiliaid. Cynorthwyo’r Rheolwr Gwasanaethau Cyflogres i weithredu systemau a gweithdrefnau newydd yn unol â deddfwriaeth newydd. Rheoli, hyfforddi a datblygu Uwch Swyddogion y Gyflogres, Swyddogion y Gyflogres a Chynorthwywyr y Gyflogres ym mhob agwedd ar eu gwaith. Bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am gefnogi a datblygu unigolion o fewn y Tîm trwy ddiweddariadau perfformiad rheolaidd ac Adolygiadau Datblygu Personol ar gyfer staff penodol. Cysylltu â'r Arweinwyr Tîm eraill i sicrhau dull cyson o weithio ac i sicrhau bod digon o oruchwyliaeth ar gael o fewn swyddogaeth y gyflogres. Sicrhau bod pob cais yn cael ei drin yn effeithlon ac yn effeithiol gan y Tîm, tra’n cynnal cyfrifoldeb am feysydd penodol yn ymwneud â gweithgareddau cyflogres.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac |
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Lefel gradd neu bydd yn rhaid gallu dangos lefel gyfatebol o wybodaeth a phrofiad a gafwyd ym maes arbenigol cyflogres, pensiynau, adnoddau dynol neu gyllid.
- Tystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad yn ymwneud â goruchwylio a rheoli.
- Gwybodaeth helaeth am reoliadau cenedlaethol ar gyfer Treth, Yswiriant Gwladol, pensiynau a'r gyflogres.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Bydd angen gwybodaeth arbenigol a phrofiad o ystod eang o weithdrefnau cyflogres/ariannol.
- Profiad sylweddol ar lefel Goruchwyliwr neu gyfwerth, gan gynnwys trefnu rotâu staff a monitro a chydlynu llwythi gwaith staff.
- Dealltwriaeth ragorol a phrofiad o systemau cyflogres cyfrifiadurol cymhleth fel ESR neu feddalwedd gyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Cydwasanaethau.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu deall, dadansoddi a dehongli gwybodaeth a data cymhleth a all fod o natur sensitif
- Sgiliau cyfathrebu cadarn gan gynnwys sgiliau perswadio, cyd-drafod a dylanwadu.
- Yn gallu arwain, rheoli a hyfforddi tîm ac ysgogi trwy esiampl.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Neil Evans
- Teitl y swydd
- Head of Payroll
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector