Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- TG
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Secondiad: 12 mis (hyd at 31/03/26 oherwydd hyd y prosiect)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 025-AC048-0325
- Cyflogwr
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Technium II
- Tref
- Abertawe
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Hwylusydd Gofal Sylfaenol
Band 5
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad uchelgeisiol sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i arwain ar drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol. Mae’n adeiladu ar bensaernïaeth ddigidol a gwasanaethau cenedlaethol a roddwyd ar waith gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru dros y degawd diwethaf.
Bydd y sefydliad yn arwain ar ddatblygiadau ar raddfa fawr sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl Cymru ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, megis ehangu’r cofnod iechyd digidol a chreu’r Adnodd Data Cenedlaethol. Bydd yn gwella’r ffordd y mae data’n cael eu casglu, eu rhannu a’u defnyddio.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar yr ffurflen gais. Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
NODER MAE DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant i ymuno â’r Tîm Gweithredol Gofal Sylfaenol o fewn y Gyfarwyddiaeth Gofal Iechyd Sylfaenol, Cymunedol a Meddwl (PCMH) a all weithio, dysgu a chyfrannu’n weithredol at y tîm. Byddwch yn gweithio mewn amgylchedd prysur, a bydd gennych sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a threfnu rhagorol. Mae rôl Hwylusydd Gofal Sylfaenol yn cwmpasu ystod eang o gyfrifoldebau o ran cefnogi darpariaeth technolegau a gwasanaethau digidol ledled Cymru. Rydym yn darparu dull ymarferol o gyflwyno mentrau cenedlaethol ar draws GIG Cymru, gan gefnogi Contractwyr Meddygon Teulu, Fferyllfeydd, Carchardai, Optegwyr a Phractisiau Deintyddol trwy ymgysylltu, gweithredu, gwerthuso a hyfforddi, gan gydweithio i wella gofal iechyd dinasyddion ledled Cymru.
SYLWER BOD Y SWYDD HON WEDI'I LLEOLI YN ABERTAWE
Prif ddyletswyddau'r swydd
Sefydlu a chynnal cyfathrebu ysgrifenedig a llafar dwyffordd effeithiol gyda Rhanddeiliaid yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell. Trafod gofynion busnes TG presennol ac yn y dyfodol gyda Rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y disgwyliadau hyn yn cael eu deall, eu cytuno a’u rheoli’n rhagweithiol. Cysylltu â chydweithwyr mewnol IGDC yn anffurfiol neu mewn cyfarfodydd fel y bo’n briodol. Monitro ceisiadau gwasanaeth a gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer materion Rhanddeiliaid, gan gysylltu â thimau IGDC, Byrddau Iechyd a Chyflenwyr, yn ôl yr angen. Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Randdeiliaid am ddatblygiadau newydd, newidiadau i systemau, gwybodaeth am wasanaethau ac ati, gan gynnwys cyflwyniadau, cyfarfodydd rhithwir un i un a chyfarfodydd ar y safle. Cynrychioli IGDC a Gofal Sylfaenol yn ôl y gofyn mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol. Darparu cyngor ac arweiniad i Randdeiliaid Gofal Sylfaenol yn unol â gweithdrefnau a chanllawiau cenedlaethol yn rhithiol neu ar y safle. Yn gyfrifol am ddarparu a derbyn gwybodaeth mewn perthynas â phrosiectau cynnyrch/gwasanaethau a ffrydiau gwaith y bydd angen eu dehongli a’u cyfleu i aelodau’r tîm. Cydgysylltu â Rheolwyr Cymorth Cynnyrch, cydweithwyr mewnol IGDC a thimau yn ôl yr angen. Cefnogi dylunio a chyflwyno cyflwyniadau i gynulleidfaoedd Rhanddeiliaid.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data. Mae’r sefydliad yn cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern a mynediad at wybodaeth bwysig am eu cleifion, wrth rymuso pobl Cymru i reoli eu hiechyd eu hunain trwy wasanaethau digidol GIG Cymru.
Mae gweithio i DHCW yn cynnig llawer o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hyblyg, cyflog cystadleuol, 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Rydym wedi ymrwymo i gydnabod a dathlu ein staff fel y rhan fwyaf gwerthfawr o’n sefydliad.
Ymunwch â'n tîm trawsnewidiol sy’n achub bywydau a dechrau gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r swydd hon am secondiad am 12 mis otherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceiso am swydd secondiad, mae’n rhaid I chi gael caniatad eich rheolwer llinell presennol cyn I chi geisio am y swydd hon.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol neu’n gallu dangos hanes o brofiad cyfatebol.
- Ymrwymiad i’ch datblygiad proffesiynol parhaus eich hun.
- PRINCE2 sylfaen neu brofiad cywerth amlwg.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o systemau a chyflenwyr gofal sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Wedi’ch cofrestru gyda chorff proffesiynol gwybodeg perthnasol.
- Tystysgrif Sylfaen ITIL neu brofiad cyfatebol amlwg
- Gwybodaeth ymarferol o Dermau Clinigol
- Gwybodaeth am sefydliadau GIG Cymru a strategaeth ITIL
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- Gwybodaeth am safonau perthnasol y GIG a gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelwch
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid mewn lleoliad Gofal Sylfaenol
- Profiad o gyflawni prosiectau mewn lleoliad Gofal Sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Cyflwyno i grwpiau bach
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun tra’n bod yn aelod effeithiol o dîm hybrid.
- Ymagwedd ragweithiol a hyblyg at waith
- Gallu ymateb i amgylcheddau newidiol.
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i nodi blaenoriaethau
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Yn gallu datblygu a chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr a Rhanddeiliaid.
Meini prawf dymunol
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefel 3 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Welsby
- Teitl y swydd
- Primary Care Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920502946
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Alternative Contact:
Mark Short
Primary Care Manager
02921056823
Rhestr swyddi gyda Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector