Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Prynwr
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol: Cymraeg
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Llun-Gwener. Mae trefniadau gweithio hyblyg ar gael gyda cymysgedd o weithio mewn swyddfa a gweithio o adref)
Cyfeirnod y swydd
043-AC245-1124
Cyflogwr
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Tref
Abertawee
Cyflog
£24,433 - £26,060 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/11/2024 23:59

Teitl cyflogwr

GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau logo

Prynwr

Gradd 3

Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-

 Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz

 

 Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Pennaeth Caffael, a'r Timau Cyrchu Canolog i ddarparu gwasanaeth trwy wasanaeth cwsmeriaid a phrosesu archebion.   Bydd yn gyfrifol am brynu nwyddau a gwasanaethau dethol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Caffael drwy gael a dadansoddi dyfynbrisiau, prosesu archebion/cofnodi data yn unol â’r Gweithdrefnau Gweithredu Cyffredin (COM), ar y system archebion prynu gyfrifiadurol er mwyn cyrraedd targedau ariannol a thargedau perfformiad.  Cynorthwyo i gaffael nwyddau a gwasanaethau rheolaidd ac afreolaidd i’r Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth, gan argymell ffynonellau cyflenwi a chyfleoedd arbed i gwsmeriaid, gan sicrhau effeithlonrwydd ac arddangos gwerth am arian yn unol â Rheolau Sefydlog/Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog, Cyfarwyddebau’r CE a phob deddfwriaeth berthnasol o fath arall.    Cyd-drafod gwariant nad yw'n ymwneud â Chyflogau nad yw’n cydymffurfio yn unol â Rheolau Sefydlog/SFIs a phob deddfwriaeth berthnasol arall, er mwyn sicrhau gostyngiad yn nifer y ceisiadau nad ydynt yn ymwneud â'r catalog a chynnydd yn y defnydd o gatalogau.   Cynorthwyo’r Tîm Perthynas Busnes Caffael i gyflenwi cynlluniau arbedion nad ydynt yn ymwneud â chyflogau gwella costau y Bwrdd Iechyd/ Ymddiriedolaeth.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa brysur gyda dealltwriaeth o egwyddorion prynu sylfaenol, bydd yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid effeithlon a phroffesiynol, sy'n sicrhau arbedion/manteision cost parhaus yn unol ag amcanion y timau Caffael. 

Aelod o'r Tîm, y bydd yn ofynnol iddo fabwysiadu dull hyblyg o ymdrin ag unrhyw weithgareddau a gyflawnir, a fydd yn gofyn am arfer menter, er ei fod yn gweithredu o fewn canllawiau gweithdrefnol. Cysylltu â staff ar bob lefel o fewn y sefydliadau rhanddeiliaid, staff eraill y GIG a chyflenwyr allanol. Yn meddu ar brofiad o weithio mewn swyddfa brysur, a bod yn llythrennog mewn TG

Gweithio i'n sefydliad

Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.

Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.

Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.

Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb.  I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/

Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel A NEU Addysg hyd at NVQ Lefel 3 NEU Dystysgrif Uwch mewn caffael a chyflenwi NEU’R Gallu i ddangos dealltwriaeth o egwyddorion prynu sylfaenol, rheoli stoc, a gofal cwsmeriaid neu wedi gweithio o fewn rôl sy’n eu cynnwys
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am Systemau Rheoli Ariannol Oracle
  • Prynu Amgylcheddol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o amgylchedd swyddfa prysur
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o Gyllid a/neu Gaffael yn y GIG
  • Sicrhau Ansawdd
  • Defnyddio Systemau Rheoli Ariannol
  • Profiad mewn swyddogaeth gaffael

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Arddangos hyder wrth ddefnyddio ffigurau
  • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd TG fel Microsoft Excel a Word
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser effeithiol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gallu trefnu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith pobl eraill yn effeithlon
  • Yn gallu cyfathrebu â staff ar bob lefel a disgyblaeth yn y sefydliad
  • Yn gallu gweithio fel aelod o dîm ac ar eich liwt eich hun
  • Yn gallu canolbwyntio am gyfnod maith
  • Yn gallu sefydlu perthnasoedd da
  • Yn gallu ymdrin â sefyllfaoedd llawn straen a chyflenwyr dig ac arddangos sgiliau gofal cwsmeriaid.
  • Cywirdeb, a’r gallu i roi sylw i fanylion
Meini prawf dymunol
  • Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol hyd at lefel 3 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Llawn cymhelliant
  • Hyblyg ac yn barod i addasu agwedd tuag at waith
  • Yn gallu teithio ar draws safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Parodrwydd i ymgymryd ag astudiaethau pellach a mynychu cyrsiau datblygiad personol
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i'n cwsmeriaid mewnol ac allanol, a’n helpu i gynnal safon rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Customer Service ExcellenceHyderus o ran anabledd - ymroddedigDisability confident committedMenopause Workplace PledgeEnei MemberLexcel Legal Practice Quality MarkRhwydwaith Network 75 logoEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthEmployer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau ApprenticeshipsArmed Forces Bronze Award NWSSP

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Suzyann Pritchard
Teitl y swydd
Senior Procurement Business Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02921 500691
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg