Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Biomedical Scientist
Gradd
Band 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-HS033-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Singleton
Tref
Abertawe
Cyflog
£44,398 - £50,807 Y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Wyddonydd Biofeddygol

Band 7

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth i’r Rheolwr Gweithredol (TRU), gan gymryd cyfrifoldeb technegol a rheolaethol am ymchwiliadau deongliadol arferol ac uwch ym mhob agwedd ar y gwasanaeth seroleg diagnostig, ac wrth sicrhau bod yr adran yn bodloni neu’n rhagori ar safonau darparu gwasanaeth fel y’u diffinnir gan y system rheoli ansawdd labordy. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd rhan ym mhob rota er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth yr adran.  Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn patrymau y tu allan i oriau, diwrnod gwaith estynedig, gŵyl y banc a phenwythnosau.

 

Bydd deiliad y swydd yn ymarfer fel Gwyddonydd Biofeddygol cofrestredig HCPC a bydd yn gweithio fel rhan o’r tîm labordy ehangach, gan gylchdroi drwy’r adran a darparu cyflenwi ar gyfer uwch gydweithwyr pan fo angen a chysylltu â staff meddygol, staff labordy eraill, staff ysbyty / Ymddiriedolaeth, cwsmeriaid. ac aelodau o'r cyhoedd fel y bo'n briodol.

 Mae ICC Abertawe yn rhan o rwydwaith Microbioleg Cymru gyfan sy'n darparu cymorth ar gyfer Diogelu Iechyd ledled Cymru. Fel y cyfryw, gallai fod yn ofynnol i ni ymateb ar fyr rybudd i argyfyngau iechyd y cyhoedd, gan gynnwys achosion a sefyllfaoedd brys eraill

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio ac yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar brosesu sbesimenau, gan gynnal ymchwiliadau deongliadol microbiolegol arferol ac uwch ym mhob agwedd ar ddiagnosis labordy Cyfeirio Tocsoplasma. Byddant yn dilysu ac yn awdurdodi adroddiadau labordy ac yn datrys problemau cysylltiedig yn ôl yr angen. Byddant hefyd yn gyfrifol am drosglwyddo canlyniadau profion labordy (papur, electronig, ar lafar), gan gynnwys ffonio canlyniadau pwysig dros y ffôn a chyngor arbenigol cysylltiedig ynghylch priodoldeb samplau a cheisiadau am ymchwiliadau.

 

Byddant yn cymryd rhan mewn archwiliadau ansawdd, gan sicrhau cynnal a chadw a chydymffurfiaeth y system rheoli ansawdd a chyfrannu at ddatblygu gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn ymchwil, gwerthuso dulliau / offer labordy a gweithredu technegau newydd.

 Bydd deiliad y swydd hefyd yn cymryd rhan mewn sicrhau ansawdd allanol a mewnol, gan gynnwys gwerthuso rheolaethau ansawdd, monitro perfformiad a rhoi camau unioni ar waith lle bo angen.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Sgiliau Cyfathrebu a Pherthynas

 

 

·       Delio'nddefnyddiol, yn glir, yn hyderus ac yn effeithlon â staff labordy, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac ymwelwyr â'r labordy.

 

 

·       Cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd adrannol a chysylltu'n effeithiol â holl aelodau staff y labordy i sicrhau bod gwaith yr uned yn cael ei gydlynu.

 

 

·       Trosglwyddo canlyniadau profion labordy (papur, electronig, ar lafar), gan gynnwys ffonio canlyniadau pwysig, i labordai cyflwyno a darparu cyngor arbenigol cysylltiedig yn ynghylch priodoldeb samplau a cheisiadau am ymchwiliadau.

 

 

·       Darparu cymorth technegol trwy wybodaeth arbenigol fanwl i staff labordy eraill a chysylltiadau allanol, gan gynnwys amgylchiadau lle gall barn unigolion amrywio.

 

 

·       Cyfeirio pob ymholiad penodol sy'n ymwneud â rheoli cleifion unigol, rheoli heintiau neu reoli achosion at Bennaeth yr TRU.

 

 

·       Nodi a chyfathrebu'n gywir ac ar fyrder i Bennaeth yr TRU unrhyw ganlyniadau a allai gael effaith sylweddol ar reoli cleifion neu reoli heintiau a chlefydau.

 

 

·       Nodi ac ymchwilio i wallau, problemau a methiannau system eraill sy'n ymwneud â darparu gwasanaeth yn y labordy. Adrodd ar y canfyddiadau i'r Rheolwr Gweithredol (TRU).

 

 

·       Cynhyrchu a chyflwyno data a gwybodaeth a gynhyrchir mewn labordy i eraill, e.e. mewn cynadleddau a chyfarfodydd gwyddonol ac i baratoi deunydd o'r fath i'w gyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid.

 

 

·       Cynrychioli’r Uned Gyfeirio Tocsoplasma ar Grŵp Iechyd a Diogelwch SBUHB, drwy fynychu cyfarfodydd y Grŵp Iechyd a Diogelwch ac adrodd yn ôl i’r Pennaeth Uned a staff yr TRU.

 

 

Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad ·       Cynnal a dangos cymhwysedd a dealltwriaeth ym mherfformiad a dehongliad profion ac ymchwiliadau anarferol, arbenigol a gynhelir yn unol â pholisïau a phrotocolau labordy sy'n gyson â gofynion ISO 15189 a safonau hyfedredd y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). ·       Cynnal cofrestriad HCPC fel amod cyflogaeth. ·       Cynnal safonau proffesiynol uchel trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gan gadw’n gyfredol â datblygiadau mewn microbioleg feddygol a pharasitoleg, trwy ymgymryd â gweithgareddau priodol gan gynnwys mynychu cyrsiau a chyfarfodydd i gynnal y wybodaeth ddiweddaraf.  ·       Cyfrannu at gynnal amgylchedd gwaith diogel, gweithio mewn modd diogel a chynnal safonau ymddygiad ac arferion gwaith yn unol â pholisïau iechyd a diogelwch Iechyd Cyhoeddus Cymru a labordai.·       Cyfrannu at ddatblygu gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn ymchwil, gwerthuso dulliau / offer labordy a gweithredu technegau newydd datblygu gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn ymchwil, gwerthuso dulliau / offer labordy a gweithredu technegau newydd ·       Mewn cydweithrediad ag arweinydd Ansawdd TRU, coladu, adolygu / gwerthuso dulliau a thechnegau fel y bo'n briodol a drafftio SOPs newydd. ·       Bod yn gyfarwydd â chanllawiau, polisïau a gweithdrefnau cytunedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Ymddiriedolaeth gwestywr a rhanddeiliaid eraill, a chyflawni dyletswyddau yn unol â hwy.

 

 

Sgiliau Cynllunio a Threfnu ·       Rheoli derbyniad, storio, profi, adrodd a gwaredu sbesimen arferol i'r Uned Gyfeirio Tocsoplasma yn effeithlon ·       Dilysu ac awdurdodi canlyniadau labordy mewn modd amserol, gan ddilyn yr algorithm labordy y cytunwyd arno, a nodi canfyddiadau arwyddocaol ac ymgynghori â staff Gwyddonwyr Biofeddygol a Chlinigol priodol. ·       Blaenoriaethu a rheoli eich gwaith eich hun o ddydd i ddydd, ochr yn ochr â staff uwch eraill. ·       Rheoli’r gwaith, fel rheolwr llinell, a monitro perfformiad y BMSWs a staff iau eraill yn ôl yr angen i sicrhau bod safon uchel yn cael ei chynnal trwy ddarparu cyngor ac arweiniad yn ôl yr angen. ·       Darparu hyfforddiant technegol i eraill (gan gynnwys staff sy'n ymweld) a ddyrennir i'r uned ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio a gwneud diagnosis o heintiau tocsoplasma hysbys neu a amheuir yn unol â chynllun hyfforddi'r labordy a/neu yn unol â chyfarwyddyd y Swyddog Hyfforddi neu Bennaeth yr Uned. Sgiliau corfforol ·       Arddangos cydsymud llaw-llygad cywir a deheurwydd llaw ar gyfer gweithio gydag offer ac offerynnau cain, e.e. microsgopau; peiriannau PCR amser real a chofnodi manylion mân, e.e. ar diwbiau bach iawn, fel sy'n ofynnol gan y rôl. Cyfrifoldeb am Ofal Cleifion / Cleient ·       Yn gyfrifol am dderbyn, llywodraethu a phrosesu sbesimen gan gynnwys gwahanu serwm neu blasma o waed cyfan ac echdynnu DNA (mae deiliad y swydd yn trin hylifau a deunyddiau corff, gan gynnwys sbesimenau risg uchel gan gleifion HIV a Hepatitis B a C), gan sicrhau bod y canlyniad cywir bob amser wedi'i neilltuo i'r sampl claf cywir.   ·       Nodi sbesimenau perthnasol a chynnal ac adrodd ar brosesu mwy cymhleth o dan amodau arbenigol, e.e. seroleg mewnol a phrofion moleciwlaidd gyda gofynion pwrpasol. ·       Nodi a phrosesu samplau hanfodol sy'n gofyn am barhad proses gyfreithiol.  Cyfrifoldeb am Weithredu Polisi / Datblygu Gwasanaeth ·       Cyfrannu at ddatblygu gwasanaeth trwy gymryd rhan mewn gwerthuso dulliau labordy, offer, nwyddau traul a gweithredu technegau newydd. ·       Dilyn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol a chymryd rhan yn eu hadolygiad a'u diweddaru.

 

Cyfrifoldeb am Adnoddau Ariannol a Ffisegol ·       Rheoli gofal, cynnal a chadw, glendid a diogelwch safleoedd ac offer labordy o ddydd i ddydd, gan roi gwybod am ddiffygion, methiannau neu hepgoriadau i staff uwch eraill yn ôl yr angen. ·       Cadw offer yn y cyflwr gorau posibl i'w ddefnyddio a gwneud addasiadau mân yn ôl yr angen. Gall hyn gynnwys cydlynu â chysylltiadau allanol megis peirianwyr cwmni i sicrhau gweithrediad parhaus offer hanfodol, a chael dyfynbrisiau a manylebau ar gyfer offer newydd yn unol â chais y Pennaeth Uned. ·       Sicrhau bod stociau traul yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u harchebu mewn modd amserol ac effeithlon. Negodi gyda gwerthwyr mewn perthynas â phrynu nwyddau traul ac offer gwerth uchel.  Cyfrifoldeb am Adnoddau Dynol ·       Rheolwr llinell y Gweithwyr Cynnal Gofal Iechyd i sicrhau gweithrediad effeithlon yr Uned ·       Darparu cyflwyniad, hyfforddiant a chymhwysedd staff yn unol â chynllun hyfforddi'r labordy a thrwy gynllunio datblygiad personol a phrosesau rheoli eraill, ac i annog safonau uchel o hyfforddiant proffesiynol. ·       Cymryd rhan mewn dethol, recriwtio a sefydlu staff yn ôl yr angen. ·       Cynnal ac adrodd ar archwiliadau Iechyd a Diogelwch o leoliadau ar draws Microbioleg ICC Abertawe. Cyfrifoldeb am Adnoddau Gwybodaeth ·       Perfformio mewnbynnu data â llaw ac yn electronig i sicrhau cywirdeb data wrth fewnbynnu demograffeg, gwybodaeth sy'n gysylltiedig â sbesimenau a chanlyniadau i'r system rheoli gwybodaeth labordy. ·       Sicrhau bod gwybodaeth yn gywir ac yn gyfredol i gyfeirio ati yn y dyfodol a’i bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data/ a gofynion GDPR. ·       Sicrhau bod system gyfrifiadurol Rheoli Gwybodaeth Labordy yr adain yn cael ei chynnal a'i chadw'n ddidrafferth trwy gysylltu â staff TG a chysylltiadau ymddiriedolaethau.

 

Cyfrifoldeb am Ymchwil a Datblygu ·       Addasu i newid a chymryd rhan yn rheolaidd mewn prosiectau gwyddonol, treialon clinigol, gwerthusiadau, prosiectau archwilio ac ymchwil pan fo angen. ·       Gwerthuso offer newydd, pecynnau profi a phrofion mewnol. Rhyddid i Weithredu ·       Ymgymryd â'r holl ddyletswyddau yn unol â chanllawiau, polisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt, i gynnal cynhyrchiad ac ansawdd data gwyddonol. ·       Fel y gwyddonydd biofeddygol arbenigol, bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio'n annibynnol ac yn achlysurol yn ystod oriau anghymdeithasol. ·       Gweithio o fewn lefel eich cymhwysedd eich hun.

 

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

 

 

 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestru HCPC

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Arbenigedd diagnosteg moleciwlaidd
Meini prawf dymunol
  • ACP-TG

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • AEI pecynnau awtomataidd a llaw
Meini prawf dymunol
  • Cyfludiad
  • IgG Avidity

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd rhan mewn SA/RA
Meini prawf dymunol
  • Cymryd rhan mewn SAA

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Rheoli eraill
  • Hyfforddi eraill
  • Rheoli Y&D
Meini prawf dymunol
  • Cymryd rhan mewn Y&D

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Heather Alderson
Teitl y swydd
Operational Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01792 285058
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg