Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cydlynydd Nyrsio Rhanbarthol Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gradd
Gradd 7
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (7.5 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener))
Cyfeirnod y swydd
028-NMR019-0824
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol
Tref
Abertawe
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/09/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Cydlynydd Nyrsio Rhanbarthol

Gradd 7

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


 

Trosolwg o'r swydd

NODER MAI DIM OND CEISIADAU GAN STAFF A GYFLOGIR GAN GIG CYMRU AR HYN O BRYD Y BYDDWN YN EU DERBYN.

Rhoddwyd Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (WAAASP) ar waith ar 1 Mai 2013 a’i nod yw haneru’r marwolaethau sy’n gysylltiedig ag ymlediad aortig abdomenol yn y boblogaeth gymwys erbyn 2025, hynny yw dynion 65 oed sy’n byw yng Nghymru.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gydlynydd Nyrsio Rhanbarthol ymuno â WAAASP am gyfnod penodol o 12 mis neu drefniant secondiad.

Mae hon yn swydd 37.5 awr yr wythnos yn seiliedig ar weithio 5 diwrnod  o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd yr oriau yn hyblyg o fewn oriau craidd 8:00am - 6:00PM.

Fel Cydlynydd Rhanbarthol byddwch yn cyflawni rôl allweddol wrth ddarparu WAAASP.  Mae’r dynion a wahoddir yn cael cynnig sgan uwchsain aortig abdomenol untro mewn safle sgrinio cymunedol. Caiff y sganiau uwchsain eu cwblhau gan sgrinwyr WAAASP hyfforddedig

Prif ddiben y rôl hon yw arwain gweithredu polisïau, safonau, protocolau a rheoli perfformiad sgrinwyr WAAASP.

Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn rheolwr nyrsio profiadol a bydd yn gyfrifol am arwain a rheoli’r Uwch Sgriniwr Rhanbarthol a darparu cymorth rheoli a goruchwyliaeth glinigol ar gyfer sgrinwyr WAAASP.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cysylltu â'r tîm gweinyddol lleol i sicrhau bod clinigau'n cael eu dyrannu'n briodol a bod prosesau gwahodd, galw ac ailalw a gwyliadwriaeth yn cael eu dilyn. Bydd angen i ddeiliad y swydd hefyd gael hyfforddiant i ddod yn gymwys mewn sgrinio a disgwylir iddo gefnogi staff sgrinio newydd drwy eu rhaglen hyfforddi unwaith y bydd yn gymwys.

Bydd y swydd wedi'i lleoli mewn swyddfa yng Ngorllewin Cymru yn Nhŷ Matrix yn Abertawe. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflenwi dros dro ar gyfer staff WAAASP ar y ddau safle a chymorth clinigol achlysurol i bob rhanbarth ledled Cymru, y gellir ei wneud o bell.  Efallai y bydd gofyniad achlysurol i weithio'n hwyrach neu ar benwythnos ond nid fel mater o drefn.

Mae dealltwriaeth dda o weithio gyda chyfranogwyr a chyfrinachedd y cyfranogwr yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, yn ogystal â sgiliau trefnu da, gwybodaeth am wella’n barhaus, profiad o arwain a rheoli staff a’r gallu i weithio’n fanwl gywir o dan bwysau ac ar eich menter eich hun.

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CYLLIDO.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig
  • Addysg hyd at lefel gradd wedi'i ategu gan hyfforddiant arbenigol diploma ol-raddedig, profiad neu dystiolaeth amlwg o brofiad cyfatebol.
  • Tystiolaeth o gyflwyno hyfforddiant ac addysg ffurfiol/anffurfiol.
Meini prawf dymunol
  • Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (IQT) – arian.
  • Cymhwyster addysgu ac asesu neu brofiad perthnasol
  • Profiad neu gymhwyster ym maes nyrsio fasgwlaidd

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o arwain a datblygu tim
  • Profiad o reoli gwasanaethau gweithredol
  • Profiad o reoli newid yn effeithiol
  • Profiad o ddatblygu a chynnal gwaith partneriaeth effeithiol gyda'r holl randdeiliaid
  • Profiad o reoli ac ymdrin a chwynion, digwyddiadau a digwyddiadau y bu ond y dim iddynt ddigwydd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli prosiectau a chynllunio gwasanaethau
  • Profiad o foderneiddio gwasanaethau heb adnoddau ychwanegol

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Cyfarwydd a rhaglenni sgrinio'r GIG ac yn eu deall
  • Cyfarwydd a methodoleg gwella ac yn ei deall
  • Deall rheoli risg (risgiau clinigol ac anghlinigol)
  • Deall egwyddorion ac arferion cynnal cyfrinachedd cleientiaid
Meini prawf dymunol
  • Cyfarwydd ag egwyddorion rheoli rhaglenni a phrosiectau ac yn eu deall

SGILIAU

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau trafod a dylanwadu rhagorol
  • Gallu cynnwys staff wrth ymgymryd a newidiadau i’r gwasanaeth a gwelliannau ansawdd
  • Gallu creu amgylchedd sy'n annog datblygiad proffesiynol a phersonol, yn hyrwyddo arloesedd, adeiladu tim a phartneriaethau creadigol
  • Gallu ail-flaenoriaethu, cynllunio a rheoli eich amser eich hun
  • Sgiliau rhyngbersonol datblygedig, gyda'r gallu i gyfleu cyfarwyddiadau, syniadau a barn mewn modd clir a chryno
Meini prawf dymunol
  • Busnes a phenderfynu ar yr amcanion mwyaf pwysig i’w cyflawni.Gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu’r iaith

RHINWEDDAU PERSONOL

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i weithio mewn tim gan barchu ac ystyried eraill
  • Hunanymwybyddiaeth dda
  • Rhinweddau arwain cadarn
  • Gallu cynnal safonau uchel o ddiplomyddiaeth a chyfrinachedd
  • Gallu gweithio o dan bwysau ac o fewn terfynau amser llym

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gareth Denton
Teitl y swydd
Programme Manager WAAASP
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07964375898
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Oriau cyswllt rhwng 9am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg