Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhaglen Lleoliadau Iach
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-ACS023-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gytuno ar apwyntiad
Tref
I'w gytuno ar apwyntiad
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd - MECC

Gradd 7

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymgeisydd profiadol ymuno â'r Is-adran Gwella Iechyd o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn nhîm rhaglen genedlaethol Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.

 

Bydd y rôl yn golygu gweithio gydag ystod o randdeiliaid ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, a bydd yn cefnogi datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad y rhaglen genedlaethol Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif,  Mae hon yn swydd ran-amser barhaol 0.6 cyfwerth ag amser llawn.

 

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ddull o newid ymddygiad sy’n ceisio defnyddio’r miliynau o ryngweithiadau dydd i ddydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael ag aelodau’r cyhoedd i’w cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u llesiant corfforol a meddyliol. Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn grymuso staff sy’n gweithio ar draws y system iechyd a gofal i gydnabod y rôl sydd ganddynt o ran atal afiechyd, ac mae’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gychwyn yn hyderus sgyrsiau newid ymddygiad priodol ac effeithiol gyda’r bobl y maent yn cwrdd â nhw.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n rhan o'r Tîm Lleoliadau Iach, a bydd yn gyfrifol am gydlynu datblygiad a gweithrediad Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.

Mae hyn yn cynnwys sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Byrddau Iechyd a Thimau Iechyd Cyhoeddus Lleol, Awdurdodau Lleol a’r sector gwirfoddol.

Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol o weithio'n effeithiol ar draws gwahanol sectorau ac asiantaethau, a bydd yn gyfforddus yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid ledled Cymru.

Mae'r swydd hon yn gyfle i weithio o fewn strwythur staff sy'n ymroddedig i weithio drwy systemau a dull amlasiantaeth o wella iechyd.  Mae’r Is-adran Gwella Iechyd yn canolbwyntio’n gryf ar werthuso, datblygu'r sylfaen dystiolaeth, a chyfathrebu ar gyfer gwell ymgysylltiad. Mae holl staff yr isadran yn gyfrifol am ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o'r dibyniaethau rhwng pynciau a lleoliadau ac am gefnogi cydweithwyr ar draws yr isadran, y sefydliad a phartneriaid.

Cytunir ar ddyletswyddau penodol gyda’r Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a’r Arweinydd Ymgynghorol (Rhaglen Lleoliadau Iach y GIG) ar ôl penodi i’r swydd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

 Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster ar lefel gyfatebol yn y gwyddorau iechyd, ymddygiad neu gymdeithasol
  • Gwybodaeth helaeth am ddulliau gwella iechyd y boblogaeth a gafwyd trwy radd Meistr, diploma ôl-raddedig neu hyfforddiant cyfatebol

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu ymyriadau a phrosiectau gwella iechyd i ddiwallu anghenion a nodwyd
  • Profiad o gymhwyso tystiolaeth neu ddamcaniaeth wrth ddatblygu rhaglenni iechyd y cyhoedd

Gwybodaeth Dealltwriaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth uwch am ddamcaniaethau a dulliau newid ymddygiad a'u cymhwysiad i iechyd y boblogaeth
  • Gwybodaeth am benderfynyddion iechyd a'r dulliau a'r agweddau o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefel poblogaeth

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar datblygedig iawn, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol
Meini prawf dymunol
  • Yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Annie Petherick
Teitl y swydd
Principal Public Health Practitioner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg