Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Imiwnedd-Oncoleg
- Gradd
- NHS Medical & Dental: Specialty Registrar
- Contract
- 2 flynedd (cyfnod penodol)
- Oriau
- Llawnamser - 40 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 120-MD159-0425
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Ganser Felindre
- Tref
- Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
- Cyflog
- £43,821 - £68,330 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 30/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Cymrawd Ymchwil Clinigol mewn Imiwnoleg y Pen a’r Gwddf
NHS Medical & Dental: Specialty Registrar
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Pennu cydberthynas imiwnedd ymateb radiotherapi llwyddiannus mewn cleifion â chanser y pen a'r gwddf.
Gweithio gyda gwyddonwyr labordy yn yr Is-adran Haint ac Imiwnedd ym Mhrifysgol Caerdydd dan oruchwyliaeth yr Athro Awen Gallimore (deiliad Grant Rhaglen CRUK), a Thîm Amlddisgyblaethol Pen a Gwddf a oruchwylir gan yr Athro Mererid Evans (Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Canser Cymru).
Goruchwylio cyflwyno treialon clinigol newydd a/neu gymhleth yn Hwb Ymchwil Canser Caerdydd (CCRH), y 'drws ffrynt' i ymchwil canser trosiadol yng Nghaerdydd.
Mae'r swydd hon am gyfnod penodol o 2 flynedd i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Wedi’i hariannu ar y cyd gan Gronfeydd Elusennol Felindre a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), bydd y Gymrodoriaeth Ymchwil Glinigol hon yn canolbwyntio ar 'Bennu cydberthnasau imiwnedd ymateb radiotherapi llwyddiannus mewn cleifion â chanser y pen a'r gwddf'.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi i ymgymryd â gradd ymchwil uwch (MD) a bydd y Gymrodoriaeth yn rhoi cyfle i hyfforddai oncoleg ymgymryd â chyfnod penodol o ymchwil yn ystod ei hyfforddiant, gan roi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cysylltiadau iddo ddod yn arweinydd ymchwil canser yn y dyfodol yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Meddygol Cymwys
- MRCP
- Cofrestriad llawn gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a Thrwydded i Ymarfer
Meini prawf dymunol
- MSc, BSc neu FRCR (Rhan 1 a 2)
- Gwybodaeth am geisiadau grant
- Gwybodaeth am brosesau trwy Ymchwil a Datblygu ar gyfer treialon clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad oncoleg at lefel Cofrestrydd Arbenigol (STR)
- Profiad clinigol o reoli cleifion oncoleg allanol a chleifion oncoleg mewnol
- Profiad oncoleg gan gynnwys dod i gysylltiad ag egwyddorion rheoli cleifion sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol canser
- Sgiliau paratoi a chyflwyno cyflwyniadau ac adroddiadau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes oncoleg acíwt neu reoli cleifion oncoleg acíwt
- Gallu profedig i reoli eich amser eich hun a chyflawni ystod o dasgau o fewn terfynau amser
- Sgiliau TG yn enwedig wrth ddefnyddio cymwysiadau MS Office
- Sgiliau dadansoddi – yn gallu dadansoddi a chyflwyno data ymchwil cymhleth, mewn amrywiaeth o fformatau i nifer o gynulleidfaoedd gwahanol
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Gallu profedig i ddefnyddio TG i roi cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau.
- Gallu profedig i werthuso llenyddiaeth yn feirniadol
- Gallu profedig i ddangos creadigrwydd, arloesedd a gwaith tîm o fewn gwaith
Meini prawf dymunol
- Gallu profedig i weithio heb oruchwyliaeth agos
- Gallu profedig i addasu i ofynion newidiol y gymuned Addysg Uwch.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser i reoli a chyflawni ystod o derfynau amser tynn ar gyfer tasgau a phrosiectau
- Sylw i fanylion
- Agwedd hyblyg at weithio, gan gynnwys sgiliau datrys problemau, rheoli newid ac awydd i ddatblygu gwybodaeth
Arall
Meini prawf hanfodol
- Rhagoriaeth mewn Gofal Cleifion
- Cadw at werthoedd Ymddiriedolaeth GIG a’r Brifysgol
- Hyblygrwydd amseroedd gwaith
- Yn fodlon gweithio ar draws 2 safle (Felindre yn yr Eglwys Newydd; CCRH/Prifysgol Caerdydd ar safle Parc y Mynydd Bychan) i gyflawni’r rôl
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag at hynny.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Prof Mererid Evans
- Teitl y swydd
- Velindre Cancer R&D Strategy Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Meddygol a deintyddol neu bob sector