Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Uwch Gydlynydd Cynorthwyydd Rheoli
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
028-AC210-0624-A
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
i'w gadarnhau
Tref
i'w gadarnhau
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flywyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/08/2024

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo

Cydlynydd Cynorthwywyr i’r Uwch Reolwyr

Gradd 5

 

Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru

Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru

Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd o Gydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth

Dilynwch ni ar TwitterFacebook, LinkedIn and Instagram

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n brofiadol mewn darparu cefnogaeth weithredol, ysgrifenyddol a gweinyddol gynhwysfawr i rôl Uwch Reoli ac yn chwilio am rôl ddeinamig a gwerth chweil?  

Ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi fod yn rhagweithiol ac yn ddyfeisgar gyda sgiliau trefnu rhagorol a'r gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith a bodloni terfynau amser gofynnol. Gan roi sylw i fanylion, dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, yn ogystal â bod yn hyderus wrth ddatblygu perthnasoedd da gyda rheolwyr mewnol ac allanol, cymheiriaid a staff.  

Mae profiad o reoli dyddiaduron electronig a chymryd cofnodion yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.  Byddwch hefyd yn rheolwr llinell i rai aelodau o'r Tîm PA o fewn Sgrinio.

Prif ddyletswyddau'r swydd

·     Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar y Cynorthwyydd i’r Uwch Reolwyr, sy'n cynnwys rheoli absenoldeb oherwydd salwch ac adolygiadau perfformiad ac ati

·     Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth gweithredol, ysgrifenyddol a gweinyddol cynhwysfawr i'r Uwch Dîm Rheoli (UDRh) Gwasanaethau Sgrinio.

·     Mae hyn yn cynnwys cynllunio a threfnu gweithgareddau a logisteg gymhleth, gan roi cymorth lefel uchel i brosiectau yn ôl yr angen, ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif a chyfathrebu/cysylltu â Rheolwyr UDRh, uwch weithredwyr mewn byrddau iechyd, cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a phartneriaid ehangach gan gynnwys awdurdodau lleol fel y bo'n briodol.  

·     Bydd deiliad y swydd yn rheoli cyfarfodydd ar lefel UDRh yn ôl yr angen gan gynnwys coladu, olrhain a lledaenu papurau, cymryd cofnodion a rheoli camau gweithredu. Mae hon yn rôl allweddol o ran rhedeg Gwasanaethau Sgrinio yn effeithiol. Nid yw'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a restrir isod wedi'u bwriadu i fod yn gynhwysfawr, ond maent yn nodi'r prif feysydd gweithgarwch a ddisgwylir gan unrhyw Gydlynydd Cynorthwyydd i’r Uwch Reolwyr.  Felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fabwysiadu dull hyblyg pan fydd anghenion y rôl yn galw am hynny

·     Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu prosesau a gweithdrefnau gweithredu safonol (SOP) a gweithio gyda chymheiriaid i sicrhau bod y rhain yn eu lle ac yn cael eu dilyn ar gyfer y tîm.

Gweithio i'n sefydliad

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.

Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.  Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.

I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r Adran Sgrinio yn rhan o Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Fel rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru. Mae'r Adran Sgrinio yn cyflwyno'r saith rhaglen sgrinio genedlaethol seiliedig ar boblogaeth yng Nghymru (Bron Brawf Cymru, Sgrinio Coluddion Cymru, Sgrinio Serfigol Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru, Sgrinio Clyw Babanod Cymru, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru) ac mae'n rheoli rhwydwaith clinigol Sgrinio Cyn Geni Cymru.

Gallwch ddod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person atodedig yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwnewch gais nawr” i'w gweld yn Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU A GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • • Cymhwyster prosesu geiriau/testun perthnasol neu lefel gyfwerth o wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch sut i fformatio dogfennau i safon uchel iawn
  • • Addysgwyd i Lefel 6, cymhwyster Gradd neu lefel gyfwerth o wybodaeth a sgiliau mewn Busnes a Gweinyddu
  • • Dealltwriaeth o ddulliau rheoli prosiect

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad amlwg o weithio fel Cydlynydd Cymorth, Cynorthwyydd Gweithredol/Personol neu rôl debyg
  • • Rheoli Dyddiadur Cymhleth
  • • Profiad o ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a sensitif a chynnal a storio cofnodion yn briodol
  • • Profiad mewn rôl oruchwyliol/reoli
  • • Profiad o reoli gweithdrefnau busnes a swyddfa
  • • Cymryd cofnodion ffurfiol yn ogystal â chymryd nodiadau cryno

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • • Yn fedrus wrth ddefnyddio meddalwedd Microsoft safonol, fel Outlook, Teams, Word, Excel, PowerPoint.
  • • Gallu dangos dealltwriaeth o werthoedd ein gweithle a'u cymhwyso, ynghyd â'r ymddygiad sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddo yn y rôl hon
  • • Yn gallu gweithio ar eich menter eich hun a hunanreoli llwyth gwaith
  • • Gallu rheoli llwyth gwaith tîm gan sicrhau trawsgyflenwi pan fo angen
  • • Gallu trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau amlddisgyblaethol
  • • Sgiliau a gwybodaeth rheoli a chyfathrebu rhagorol
  • • Gallu cymryd nodiadau ffurfiol ac anffurfiol yn ôl yr angen, gan sicrhau amseroedd cwblhau effeithlon
  • • Dadansoddi gwybodaeth o nifer o ffynonellau
  • • Gallu addasu'n gyflym i amgylchedd cymhleth sy'n newid
Meini prawf dymunol
  • • Llaw-fer

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Final Gold LevelDisability confident leaderStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Final Gold Level WelshRefugee Employment NetworkStep into healthHappy to Talk Flexible WorkingArmed Forces CovenantStonewall Top 100 Employers in 2023Employer pledge demonstrating a commitment to change how we think and act about mental healthCore principlesPrentisiaethau Apprenticeships

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Angela Burke
Teitl y swydd
Screening Pathway Programme Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07752225219
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Bydd y rôl hon yn cynnig cymysgedd o weithio gartref a gweithio mewn swyddfa.  Croesewir ceisiadau am waith rhan-amser neu rannu swydd. 

Os hoffech drafod y cyfle hwn yn anffurfiol, e-bostiwch [email protected] i drefnu amser addas.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg