Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cleifion Allanol
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Core Monday to Friday hours
Cyfeirnod y swydd
100-NMR096-0325
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
Tref
Aberaeron
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/04/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
14/04/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Gofrestredig

Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Os ydych yn unigolyn dynamig sy'n mwynhau her ac yn dymuno ymuno â thîm sy'n teimlo'n angerddol i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion allanol, rydym am glywed wrthoch. Rydym yn dîm bach sy’n darparu clinigau cymunedol dan arweiniad nyrsys, yn ogystal â chymorth i wahanol glinigau traddodiadol dan arweiniad Meddygon Ymgynghorol ledled Canolfannau Gofal Integredig Aberaeron ac Aberteifi. Bydd gofyniad hefyd i ddarparu clinig cymunedol achlysurol yn Nhregaron.

Mae gwasanaethau Cleifion Allanol yn cynnig amrywiaeth o arbenigeddau i nyrsys feithrin ac atgyfnerthu sgiliau a phrofiad clinigol, a gallant fod yn fan cychwyn da i lywio eich gyrfa neu i gael cyfleoedd i archwilio rolau arbenigol yn y dyfodol mewn arbenigeddau clinigol, a hynny trwy amlygiad clinigol uniongyrchol.

Bydd gofyn i ddarpar ymgeiswyr fod â phrofiad diweddar o weithio yn system gofal iechyd y GIG, a byddai profiad blaenorol o nyrsio cleifion allanol yn fanteisiol, ond nid yw'n angenrheidiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i'r ymgeiswyr llwyddiannus i alluogi arferion gwaith effeithiol i gefnogi profiad y claf a'i ddiogelwch, ac i'ch galluogi i fod yn 
ymarferwyr annibynnol yn ein clinigau microsugno clustiau, Treial Heb Gatheter, a’n clinigau newid cathetr rheolaidd dan arweiniad nyrsys. Os byddwch yn llwyddiannus byddwch hefyd yn rhan o dîm sy'n datblygu sgiliau i ddarparu triniaethau dydd ar gyfer amrywiaeth eang o anghenion gofal yn y dyfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Cleifion Allanol yn amgylchedd amrywiol, amlddisgyblaethol sy'n gofyn am sgiliau hyblyg y gellir eu haddasu, y gallu i ddysgu, a'r cymhelliant i ddatblygu eich sgiliau eich hun. Rydym yn ymdrin ag ystod eang o arbenigeddau, gan gynnwys clinigau Fasgwlaidd, Offthalmoleg, Orthopaedeg, Dermatoleg a Chlust, Trwyn a Gwddf.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn drefnus, ac yn ymroddedig i ddarparu gofal nyrsio o safon uchel, ac yn gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal ag yn rhan o dîm. Byddwch yn sicrhau'n gyson bod preifatrwydd, urddas a lles seicolegol claf yn cael eu cynnal bob amser a bod y gofal a roddir yn canolbwyntio ar y claf. Mae angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Mae arnom angen unigolion sy'n flaengar, yn drefnus, ac sy'n meddu ar agwedd gadarnhaol tuag at hyblygrwydd a newid.

Rydym yn adran ragweithiol ac yn cefnogi myfyrwyr meddygol, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid, lleoliadau gwaith a datblygiad gweithiwr cymorth gofal iechyd. O fod yn nyrs gymwys yn yr adran, byddwch hefyd yn gweithredu fel Asesydd Ymarfer a/neu Oruchwyliwr Ymarfer. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd addysg o ran cynnal gweithlu cynaliadwy, ac yn disgwyl i’n staff arwain trwy esiampl i ysbrydoli cenhedlaeth gweithlu’r dyfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 14/04/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ac astudiaeth ôl-gofrestru, e.e. POVA
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ac astudiaeth ôl-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
  • Tystiolaeth o hyfforddiant ac astudiaeth ôl-gofrestru, e.e. ILS

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal cleifion uniongyrchol
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
  • Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Laura Jones
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01239 801560
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg