Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth a Rheoli Meddyginiaethau
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- 8 mis (Cyfnod penodol/Secondiad tan 31/03/2025)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST028-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
- Tref
- Aberaeron
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Technegydd Fferyllol Optimeiddio Meddyginiaethau
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2025.
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Rydym yn chwilio am Dechnegydd Fferyllol hunanysgogol sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion i ymuno â'n tîm Fferylliaeth a Gofal Cartref Optimeiddio Meddyginiaethau Gofal Sylfaenol. Bydd angen i chi fod â diddordeb angerddol mewn gofal cleifion, a meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol, sgiliau trefnu gwych, ynghyd â'r awydd i wthio ffiniau'r proffesiwn.
Fel rhan o waith Fferylliaeth Optimeiddio Meddyginiaethau, byddwch yn cefnogi datblygiad a gweithrediad cynllun gwaith y Bwrdd Iechyd trwy ddadansoddi data presgripsiynu, datblygu gweithdrefnau gweithredu safonol, a gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid. Yn y gwasanaeth gofal
cartref, byddwch yn cynorthwyo i redeg y gwasanaethau rheoli meddyginiaethau o ddydd i ddydd, sy'n cynnwys hyfforddi gofalwyr, fferyllfeydd cymunedol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gyflenwi meddyginiaethau i gefnogi cleifion i fyw'n annibynnol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r prif gyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol:
• Byddwch yn gweithio fel rhan o’r Tîm Fferylliaeth Optimeiddio Meddyginiaethau yn cefnogi gweithrediad cynllun gwaith y Bwrdd Iechyd mewn practisau meddygon teulu, gan gysylltu â staff y practisau, fferyllfeydd cymunedol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ddi-dor.
• Byddwch yn cynorthwyo i ddarparu addysg fferyllol yn ymwneud â rheoli
meddyginiaethau ar gyfer technegwyr fferyllol cyn-gofrestru, fferyllwyr dan hyfforddiant, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a staff anghofrestredig
• Byddwch yn darparu rhaglenni hyfforddiant a chymhwysedd ar roi meddyginiaethau, a hynny i weithwyr gofal a rhanddeiliaid
• Byddwch yn darparu cymorth i ddarparwyr gofal o ran rheoli meddyginiaethau, yn cynnwys ymweliadau gofal cartref ac asesiadau o lefelau cefnogaeth.
• Bydd angen i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, a bod yn hyderus wrth ryngweithio ag ystod amrywiol o bobl a grwpiau staff mewn amrywiaeth o leoliadau
Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol a gallu gweithio'n annibynnol i gwblhau tasgau o fewn yr amserlen ddymunol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23/07/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am weithdrefnau technegol fferyllol a gafwyd trwy hyfforddiant Tystysgrif Addysg Goruchwyliwr clinigol ar gyfer addysg uwch mewn ymarfer technegwyr fferyllol Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegwyr Fferyllol neu NVQ 3 a BTEC neu gymhwyster cyfatebol mewn gwyddor fferyllol
- Yn Dechnegydd Fferyllol Cyffredinol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Gwybodaeth ymarferol am feddyginiaethau cyfredol
Meini prawf dymunol
- Goruchwyliwr clinigol ar gyfer addysg uwch mewn ymarfer technegwyr fferyllol
- Achrediad Rheoli Meddyginiaethau neu brofiad cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gymhwyso mewn maes ymarfer perthnasol i lefel gradd
- Profiad helaeth o hyfforddi staff o raddau gwahanol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal sylfaenol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Rhaid gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Juliette Dean
- Teitl y swydd
- Chief Pharmacy Technician in Domiciliary Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 899038
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Emma Williams - Uwch-dechnegydd Fferyllol ym maes Gofal Sylfaenol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector