Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Prif Nyrs Iau Pediatreg
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 30/09/2025 OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH
Gallwch chi ein helpu ni i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yng Ngheredigion – a gallwn ni eich helpu chi i drawsnewid eich gyrfa. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfle cyffrous i Arweinydd Nyrsio Plant llawn cymhelliant, brwdfrydig ac uchelgeisiol ymuno â'n Gwasanaeth Nyrsio Pediatrig Acíwt.
Contract am gyfnod penodol o 12 mis i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb Mamolaeth. Rydym yn chwilio am Brif Nyrs Iau Band 6 i ymuno â'r tîm yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth. Mae'r ardal glinigol yn darparu gwasanaethau lleol i'r plant, gan gynnwys chwe gwely i gleifion mewnol, un gwely sefydlogi dibyniaeth fawr ac Uned Triniaethau Dydd Pediatrig pedwar gwely, yn ogystal â gofal Oncoleg a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed.
Rydym yn darparu gwasanaeth rhagorol i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd, gwasanaeth sy'n ymgorffori Gofal sy'n Canolbwyntio ar y Teulu. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu ymarfer o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a rhieni, gan sicrhau bod y Gofal sy'n Canolbwyntio ar y Teulu yn cael ei ddarparu mor agos i'r cartref â phosibl.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bolisi adleoli ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus sy'n dymuno symud i'r ardal. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf i fod yn gymwys, sydd i'w gweld yn y Polisi Adleoli.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i chi hefyd gydlynu'r uned o ddydd i ddydd. Rydym yn cynnig cyfleoedd da i gronni sgiliau nyrsio pediatrig mewn tîm cyfeillgar, cefnogol ac anogol.
Mae agwedd ofalgar yn hanfodol, yn ogystal â sgiliau ysgrifenedig a llafar da. Rhaid i chi allu rheoli eich amser yn effeithiol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cefnogi pob aelod o staff yn ei ddysgu gydol oes. Rhaid i ymgeiswyr fod yn Nyrsys Plant Cofrestredig (RSCN)/wedi'u hyfforddi yn y Gangen Plant a meddu ar gofrestriad perthnasol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), ynghyd â phrofiad ôl-gofrestru sylweddol neu gymhwyster Uned Dibyniaeth Fawr (HDU).
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 15/08/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Nyrs Gofrestredig, Rhan 8 neu 15 o'r gofrestr
- Tystiolaeth o DPP
- WNB 998 neu gymhwyster cyfatebol
- Diploma ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cwrs Aseswyr NVQ D32/33
- Yn meddu ar radd berthnasol neu yn y broses o gael gradd berthnasol
- EPLS/APLS/PALS
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddarparu rheolaeth oruchwyliol
- Profiad o gydgysylltu a rheoli gofal cleifion
- Profiad o hyfforddiant gorfodol a statudol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am nyrsio pediatrig
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o ymchwil ac archwilio
- Profiad o ymdrin â digwyddiadau clinigol a chŵynion
- Wedi cymryd rhan mewn proses recriwtio a dethol
- Wedi cymryd rhan mewn IPR
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bethan Hughes
- Teitl y swydd
- Senior Sister Paediatrics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635757
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector