Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddol
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 12.5 awr yr wythnos (I’w weithio dros 4 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener))
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC159-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Cynorthwyydd Personol - Rheoli Meddyginiaethau
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm fferylliaeth cyfeillgar yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. Bydd gofyn i'r unigolyn ddarparu cymorth gweinyddol o ddydd i ddydd i'r tîm yn rhan-amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn delio â gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif, ac felly byddir yn dibynnu arno i gydymffurfio â rheolau a pholisïau manwl y GIG. Bydd y rôl hon yn cynnwys caffael, paratoi agendâu a chymryd cofnodion, a llunio a diweddaru taenlenni a chronfeydd data. Felly, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad yn y meysydd hyn a gwybodaeth ymarferol ragorol am raglenni Microsoft Office.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 24.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu gymhwyster cyfatebol, yn ogystal â thystiolaeth o'ch profiad o ystod lawn o ddyletswyddau yn gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am derminoleg arbenigol y GIG/Sefydliadol
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ysgrifenyddol
- Wedi eich addysgu i lefel diploma
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fod yn Gynorthwyydd Personol i Uwch-reolwr (neu set sgiliau drosglwyddadwy amlwg) gan gynnwys: • Blaenoriaethu ffrydiau gwaith a bodloni terfynau amser heriol • Rheoli dyddiadur electronig/mewnflwch (Outlook) mewn modd effeithiol ac effeithlon • Ymdrin ag ymholiadau ffôn amrywiol - Trefnu a chefnogi cyfarfodydd a digwyddiadau amrywiol • Clywdeipio a chopideipio, teipio a thrawsgrifio darnau arddweud • Llunio dogfennau clir a chywir • Croesawu ymwelwyr mewn modd cyfeillgar ac effeithlon • Cymryd a llunio cofnodion cywir • Dehongli a choladu data mewn fformat safonol - Cofnodi gwybodaeth gyllidebol • Chwilio am wybodaeth briodol ar y Rhyngrwyd, a nodi a lawrlwytho'r wybodaeth honno • Adalw gwybodaeth o'r ffynonellau sydd ar gael • Rheoli/cynnal a chadw system ffeilio, ar ffurf ffeiliau electronig a ffeiliau papur • Rheoli a datblygu systemau swyddfa • Profiad o drefnu cyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau • Paratoi deunyddiau cyflwyno • Sgiliau prawfddarllen • Delio â gwybodaeth dra chyfrinachol, sydd weithiau'n ddadleuol/sensitif • Dealltwriaeth o'r GIG.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth, prysur
- Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office (gan gynnwys MS Teams)
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn sefydliad mawr a chymhleth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Robson
- Teitl y swydd
- Pharmacy Site Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635733
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Llinos Strange
Rheolwr y Ddosbarthfa
01970 635733
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector