Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gofal Argyfwng a Brys
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR175-0524-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Nyrs Staff - Canolfan Gofal Argyfwng a Brys
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Argyfwng a Gofal Brys.
Mae'r adran brysur yn cynnwys 2 Gilfan Dadebru, 4 Cilfan Argyfyngau Mawr, Uned Mân Anafiadau, Uned Gofal Dydd, ac Uned Penderfyniadau Clinigol o 13 o welyau.
Gall yr Adran ddarparu ymyrraeth ddynamig i'r claf sy'n ddifrifol wael neu sydd ag anafiadau difrifol. Mae ffocws y Tîm Argyfwng a Gofal Brys yn gadarn ar waith tîm a gofal cleifion, ac mae'r staff yn falch o fod yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol amrywiol a chyfeillgar.
Mae oriau llawn amser a rhan amser amrywiol ar gael.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddai'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar Gofrestriad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, darparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol, ac amlygu awydd i weithio yn yr Uned Argyfwng a Gofal Brys.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd brofiad o weithio mewn Lleoliad Gofal Acíwt; fodd bynnag, byddai cymorth a hyfforddiant llawn yn cael eu rhoi i unrhyw ymgeisydd sydd â chymhelliant i ymuno â'n tîm.
Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais wedi'i leoli yn nhref arfordirol Aberystwyth, ac yno hefyd y mae'r Brifysgol amlgenhedlig fywiog a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Ceredigion yn un o'r siroedd mwyaf hardd a chyferbyniol yn y Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o bentrefi traddodiadol a threfi glan môr, ac mae yna ddinasoedd prysur o fewn pellter gyrru, sydd hefyd yn hygyrch ar y rheilffordd. Gyda chyfleoedd i fwynhau'r awyr agored, cerdded, hwylio, hwylfyrddio neu feicio, mae gan Aberystwyth rywbeth i'w gynnig i bawb.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 22/07/2024
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cyrsiau Diploma/Ol-raddedig Perthnasol ym maes Gofal Brys
- BSc/Diploma mewn Nyrsio neu brofiad arbenigol cyfatebol a gafwyd dros amser
- Cyrsiau Byr Perthnasol ym maes Gofal Brys/ALS/EPLS
Meini prawf dymunol
- ENB 199/TNCC
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn Gofal Brys/Acíwt/Critigol
- Arweinyddiaeth a diplomyddiaeth
- Profiad o addysgu/fentoriaeth
- Y gallu i feddwl yn eglur ac i aros yn bwyllog mewn argyfwng
- Y gallu i ddatrys problemau mewn modd effeithiol
- Bod yn ymwybodol o'r gweithgarwch cyfredol o ran “Diwygio Gofal Brys”
- Blaenoriaethu a threfnu
- Cymhwyso gwybodaeth arbenigol am ofal brys yn eich gwaith
- Nodi datblygiadau o ran Llywodraethu Clinigol ym maes argyfyngau
- Cadw at God Ymddygiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Tynnu gwaed a symud ymlaen i osod canwlâu mewnwythiennol
- Adnabod afreoleidd-dra marwol y galon
- Sgiliau Cyfrifiadurol Sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Diffibriliad
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Chris Edwards
- Teitl y swydd
- Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635735
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector