Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ystadau
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener 08:00 tan 16:00)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA007-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/05/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/05/2025
Teitl cyflogwr

Crefftwr Cynnal a Chadw - Trydanol (Ar Alwad)
Band 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Crefftwr Cynnal a Chadw Trydanol yn nhim Cynnal a Chadw Gweithredol yr Adran Ystadau yn Ysbyty Bronglais.
Bydd yr unigolyn a benodir yn cefnogi staff rheolaeth weithredol y safle yn y gwaith Trydanol dyddiol o gynnal a chadw'r beirianneg drydanol, a fydd yn cynnwys awtoclafau, diheintyddion golchi, systemau larymau tân, systemau galw nyrsys, y Prawf Dyfeisiau Cludadwy (PAT), ac ati.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni dyletswyddau ar alwad hanfodol yn rhan o'r tîm ar alwad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Crefftwr Trydanol yn rhan o dim a fydd yn sicrhau bod peiriannau a chyfarpar trydanol yn cael eu cynnal a'u cadw i safon briodol er mwyn cefnogi adrannau gwasanaethau clinigol yn eu prif dasg o drin cleifion.
Bydd deiliad y swydd yn rhan annatod o strwythur tîm lleol cryf ar y safle.
Sicrhau bod tasgau cynnal a chadw yn cael eu cyflawni.
Cyflawni gwaith sy'n cynnwys gweithgareddau cymhleth a/neu anarferol.
Ysgwyddo cyfrifoldeb am raddnodi a chanfod diffygion ar ystod eang o beiriannau a chyfarpar peirianneg.
Gosod cyfarpar newydd, yn ogystal a gwasanaethau trydanol newydd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 08/05/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- HNC/HND mewn disgyblaeth drydanol neu brofiad cyfatebol, ynghyd a chwblhau cyfnod o fod yn brentis
- Yn gwbl gyfarwydd a'r fasnach graidd, h.y. Trydanol, ac yn meddu ar wybodaeth weithredol am fasnachau cysylltiedig, e.e. gwasanaethau mecanyddol a gwasanaethau nwy
- Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth o asbestos, ac yn gwbl gyfarwydd a delio a samplau amheus a gweithio yng nghyffiniau cynhyrchion asbestos
- Yn gwbl gyfarwydd a Pholisi Amddiffyn Rhag Tan y Bwrdd Iechyd
- Wedi eich grymuso mewn modd priodol trwy hyfforddiant a/neu brofiad i ymgymryd a thasgau statudol, e.e. profion trydanol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth berthnasol o Femoranda Technegol Iechyd (HTMs)
- Yn gofrestredig gyda'r Cyd-fwrdd Diwydiannol (JIB)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Cyfnod o fod yn brentis
- Cwblhau rhaglen hyfforddiant strwythuredig sy'n cynnwys Rheoliadau 17eg Argraffiad Sefydliad y Peirianwyr Trydanol (IEE)
- Gwybodaeth ymarferol dda am systemau goleuo, systemau pwer, systemau galw nyrsys, ataliad y galon a systemau larymau tan
Meini prawf dymunol
- Profiad o beirianneg ysbyty
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Yn gallu cymryd rhan yn y rota Ar Alwad, ac ar gael i gyflawni goramser pan fo'r gwasanaeth yn gofyn am hynny
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elfyn Jones
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970635773
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector