Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfleusterau
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Rota i gynnwys gweithio unrhyw 3 diwrnod allan o 7 i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, ar rota rholio)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA011-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/05/2025
Teitl cyflogwr

Y Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau Meddal
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Goruchwyliwr Rheoli Cyfleusterau Meddal a fyddai’n gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau glanhau a chadw tŷ yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.
Yr oriau gwaith yw 22.5 awr yr wythnos, yn gweithio tri diwrnod allan o saith, yn ôl trefn rota, yn cynnwys gwyliau banc a phenwythnosau.
Os ydych yn mwynhau her, yna gallai hon fod y rôl i chi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig ac ymrwymedig sy'n gweithio'n galed, yn llawn cymhelliant, yn flaengar ac yn arloesol.
Mae'r swydd yn heriol a bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad perthnasol o oruchwyliaeth/arwain tîm. Byddai cymhwyster perthnasol ar lefel NVQ 3 neu lefel gyfatebol yn hanfodol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio rhwng 7am a 8pm, a bydd y gallu i weithio'n hyblyg yn ôl y gofyn yn hanfodol.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg i weithio lle bynnag y mae'r galw yn yr Adran Cyfleusterau Gwesty.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06/05/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster brofiad, sgiliau a gwybodaeth gyfatebol mewn perthynas â thasgau glanhau/goruchwylio gwaith glanhau
- Gwybodaeth fanwl am Hylendid Bwyd, Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud, Codi a Chario, a gwybodaeth am HACCP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm neu gymhwyster cyfatebol
- Dyfarniad Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Tystysgrif Hyfforddi
- Hyfforddiant ar Oruchwylio
- Tystysgrif IOSH
- Gwybodaeth am drefniadau Atal a Rheoli Haint
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio a'r cyhoedd
- Profiad o oruchwylio/arwain tim
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Profiad o oruchwylio mewn sefydliad tebyg
- Profiad o ddyletswyddau glanhau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol, yn ôl y gofyn
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Denise Thomas
- Teitl y swydd
- Soft Facilities Management Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03004307972
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector