Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferyllfa
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 2 flynedd (Cyfnod penodol tan 30/07/2027)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan mewn ar alwad, penwythnos, Gŵyl y Banc a rotas hwyr)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST007-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth,
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/04/2025
Teitl cyflogwr

Fferyllydd Clinigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol 30/07/2027 .
A ydych newydd gymhwyso neu'n chwilio am gyfle i newid gyrfa? A yw'r syniad o ddatblygu a dysgu mewn amrywiaeth o arbenigeddau clinigol yn apelio atoch?
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy'n frwd dros wella gofal ac yn rhannu gwerthoedd ein bwrdd iechyd i ymuno â'n tîm
Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur. Mae'r adran yn darparu ystod o arbenigeddau meddygol a llawfeddygol
Byddwch yn ymuno â thîm o fferyllwyr a thechnegwyr profiadol, a byddwch yn cael eich cefnogi mewn amgylchedd gwaith anogol i ddatblygu eich gyrfa ac ymgymryd â'r cymhwyster presgripsiynu. Ar hyn o bryd, mae presgripsiynwyr yn ymarfer mewn Eiddilwch, Cardioleg a Rheoli Heintiau. Byddwch yn rhan o’r gwaith arfaethedig o drawsnewid systemau rheoli meddyginiaethau yn ddigidol, a chewch eich annog yn frwd i
ymgysylltu â’r prosesau hyn.
Bydd disgwyl i chi ymgymryd â rôl fferyllydd cyfrifol, a bydd gofyn i chi ymgymryd ag Ymrwymiad Dyletswydd Argyfwng (ar alwad), ynghyd â gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc, yn rhan o rota.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn ymgymryd â rôl fferyllydd clinigol yn ôl trefn rota gan weithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn y fferyllfa a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.
Bydd gennych gyfle i ddatblygu eich ymarfer mewn amrywiaeth eang o feysydd clinigol mewn ymddiriedolaeth acíwt bach a chyfeillgar.
Byddwch yn cael cefnogaeth yn eich astudiaethau parhaus trwy'r diploma clinigol a'r cymwysterau presgripsiynu dilynol.
Bydd disgwyl i chi ymgymryd â rôl fferyllydd cyfrifol wrth weithio yn ardaloedd y cleifion allanol.
Mae'r swydd yn cynnwys cyfleoedd datblygu ffurfiol naill ai o Raglen Hyfforddi Sylfaen Ôl-gofrestru AaGIC strwythuredig neu ddiploma clinigol dysgu o bell. Mae'r ddau gymhwyster hyn yn darparu'r sylfaen ar gyfer datblygu gyrfa rhagorol a llwyfan ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol. Er mwyn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhaglen hyfforddi ôl-Sylfaen AaGIC rhaid i chi fod yn gymwys ym mis Gorffennaf 2025 neu wedi cofrestru gyda'r GPhC ar ôl Gorffennaf 2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 15/04/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd Meistr mewn fferylliaeth (4 blynedd neu gyfwerth)
- Aelod o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (fferyllydd cofrestredig neu hyfforddai fferylliaeth cyngofrestru yn ystod y broses ymgeisio; rhaid bod yn fferyllydd cofrestredig ar y dyddiad dechrau)
- Cymhwyster mewn Saesneg Iaith – TGAU gradd C neu uwch neu sgor IELTS o 6.5 mewn ysgrifennu a 6.0 yn yr holl gydrannau eraill
- Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am ofal iechyd mewn fferyllfa, a phrofiad ohono
Meini prawf dymunol
- Y gallu i amlygu cyflawniad mewn mwy nag un maes rheoli meddyginiaethau
- Profiad o weithio mewn ysbyty
- Gwasanaethau Technegol
- Profiad o addysgu a goruchwylio fferyllwyr cyn-gofrestru, technegwyr a chynorthwywyr
- Profiad ym maes gofal sylfaenol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg Lefel 1
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Donna Robson
- Teitl y swydd
- Pharmacy Site Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01970 635733
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sean Thomas
01970 635733
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector