Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal heb ei Drefnu
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR657-1023-L
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-reolwr Nyrsio (Gofal heb ei Drefnu)

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Diben rôl yr Uwch-reolwr Nyrsio yw darparu arweinyddiaeth a rheolaeth 
broffesiynol mewn perthynas â'r adnoddau nyrsio ledled yr arbenigeddau Gofal Heb ei Drefnu.

Bydd hyn yn cynnwys:

Sicrhau arweinyddiaeth broffesiynol effeithiol i reolwyr adrannau a staff yn yr arbenigeddau hynny er mwyn sicrhau'r safonau uchaf o ofal clinigol; 

Darparu arweiniad a chyfarwyddyd i'r holl nyrsys cofrestredig ac anghofrestredig sy'n gweithio ym maes darparu arbenigeddau Gofal Heb ei Drefnu;

 

Gofalu bod y gwasanaethau cymorth priodol ar gael;

Sicrhau gwasanaeth o ansawdd, a chynnal safon uchel o ran rheoli heintiau;

Darparu presenoldeb hygyrch a chefnogol y gall cleifion a'u teuluoedd fynd ato am gymorth, cyngor a chefnogaeth ac i ddatrys pryderon yn gynnar.

Bydd deiliad y swydd yn arweinydd hygred ac yn meddu ar y gallu i rymuso a meithrin nyrsys sy'n gweithio yn yr amgylchedd clinigol, a bydd yn atebol am safonau nyrsio proffesiynol.

Ar y lefel hon, disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n annibynnol a darparu cyngor tra arbenigol i gyd-weithwyr er mwyn sicrhau bod amcanion y gwasanaeth, ynghyd â'r amcanion o ran ansawdd a pherfformiad, yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn cynnwys cefnogi systemau ar gyfer proses ailddilysu y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a rheoli perfformiad unigolion a thimau nyrsio o ran eu hatebolrwydd am safon a diogelwch y gofal cleifion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfarwyddo, arwain ac ysgogi nyrsys a staff eraill, gan weithio yn y timau a reolir er mwyn sicrhau safon uchel o broffesiynoldeb, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran darparu gwasanaeth, a sicrhau bod y gweithgarwch yn cyd-fynd â chynlluniau a strategaethau'r Bwrdd Iechyd;

Bod yn ffocws cychwynnol ar gyfer yr holl bryderon sy'n codi mewn arbenigeddau Gofal Heb ei Drefnu, yn ogystal ag ar gyfer materion proffesiynol/gweithredol sy'n codi o ddydd i ddydd, a bod yn gyfrifol am reoli'r staff nyrsio a'r adnoddau yn y timau dynodedig;

Ymgymryd â'r gwaith o hyfforddi, mentora, cynllunio adnoddau, gosod safonau, rheoli perfformiad a datblygu timau ac unigolion, a hynny er mwyn sicrhau bod diwylliant o welliant parhaus a rhagoriaeth broffesiynol yn amlwg yn yr ysbyty;

Gweithio gyda chyd-weithwyr uwch i baratoi dogfennaeth gais ar gyfer unrhyw gynlluniau i ddatblygu'r ystad a gofynion o ran cyfarpar a ariennir gan gyfalaf yn ôl disgresiwn;

Paratoi adroddiadau dadansoddol clir a chryno ar amrywiaeth eang o faterion cymhleth, gan lunio dadleuon cymhellol a rhesymegol yn aml, yn seiliedig ar eich asesiad eich hun o'r opsiynau, a chynnig argymhellion cryf i'r achos, fel y bo'n briodol;

Gweithio yn unol â'r strategaeth a pholisi cenedlaethol/lleol ac o fewn canllawiau proffesiynol, gan eu dehongli i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi lleol a gwella arfer.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 29/07/2024

Mellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

https://youtu.be/9wTeZD4cQOw  
https://youtu.be/v5HCZuYR42w  
https://youtu.be/OgnuYER_XlA  

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Lefel 1 a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • MSc mewn Nyrsio neu brofiad cyfatebol
  • Cyrsiau ol-raddedig perthnasol a/neu brofiad mewn arbenigeddau sy'n ymwneud a'r swydd
  • Tystiolaeth o ddatblygu rheolaeth yn barhaus
  • Yn meddu ar gymhwyster rheoli cydnabyddedig neu brofiad amlwg cyfatebol
  • Yn meddu ar wybodaeth am fethodolegau gwella ansawdd
  • Yn meddu ar wybodaeth am bolisiau a materion cyfredol o ran arfer proffesiynol, cydymffurfedd, safonau a'r GIG yn ehangach, ynghyd a dealltwriaeth ohonynt
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o'r rol a'i diben yn y sefydliad
Meini prawf dymunol
  • Gwella Ansawdd Gyda'n Gilydd (IQT Efydd/Arian)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddatblygu ymarfer
  • Rhaid meddu ar brofiad o rol rheolaeth ganol yn sector aciwt y GIG
  • Rhaid meddu ar brofiad o reoli newid
  • Rhaid meddu ar brofiad profedig o arweinyddiaeth glinigol ar lefel uwch-reolwr
  • Y gallu i reoli gwariant yn unol a chyllideb a datblygu dulliau rheoli digonol i wneud hynny
  • Rhaid meddu ar brofiad uniongyrchol o newid mawr i wasanaeth a sefydliad, ynghyd a gwybodaeth am sut i lywio gwasanaeth trwy raglen newid lwyddiannus
  • Profiad o reoli staff a gweithio gydag Undebau Llafur/gyda chynrychiolwyr staff

Sgiliau Iaith

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid meddu ar empathi tuag at nodau Deddf yr Iaith Gymraeg, a'u cefnogi
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg/dirnadaeth o'r Gymraeg
  • Welsh Speaker (Level 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dawn Jones
Teitl y swydd
Head of Nursing
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635846
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg