Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Uwch-fferyllydd Clinigol
Gradd
Gradd 8a
Contract
11 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 30/07/2025 Cyfnod Mamolaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
Cyfeirnod y swydd
100-PST031-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau ar ôl cyfweliad
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
06/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-fferyllydd Clinigol

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 30/07/2025 CYFNOD MAMOLAETH.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae gennym gyfle gwych i Uwch-fferyllydd Clinigol profiadol ymuno â'n Tîm Rhewmatoleg cyfeillgar, sefydledig ac uchel ei barch ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r tîm Rhewmatoleg, y tîm fferylliaeth a'r adran gofal cartref. 

Mae'r rôl hon yn gofyn am reoli presgripsiynau gofal cartref ar gyfer rhewmatoleg sy'n cael triniaeth fiolegol. Bydd yn ofynnol i chi weithio'n agos gyda'r adran gofal cartref i sicrhau bod cleifion rhewmatoleg yn cael eu triniaeth fiolegol mewn modd amserol, gan fonitro hynny'n briodol. Bydd hyn hefyd yn gofyn am reoli unrhyw brinder cyffuriau biolegol neu amnewidiadau biodebyg. Bydd yn ofynnol i chi ateb ymholiadau gofal cartref sy'n berthnasol i reoli ein cleifion rhewmatoleg a chefnogi'r tîm Rhewmatoleg (meddygon 
ymgynghorol a nyrsys arbenigol) gydag ymholiadau ynghylch meddyginiaethau a phresgripsiynu

Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu ar gyfer 37.5 awr (oriau llawn-amser); bydd 30 awr yn cefnogi'r tîm Rhewmatoleg, a 7.5 awr yn gweithio yn yr adran fferylliaeth. Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan yn rota ar alwad y tu allan i oriau y fferyllfa.

Prif ddyletswyddau'r swydd

• Meithrin perthnasoedd gwaith agos ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol a chyfrannu at gynlluniau gofal clinigol

• Ymateb i ymholiadau'n ymwneud â meddyginiaethau, darparu cyngor ar 
bresgripsiynu, a hyrwyddo arfer seiliedig ar dystiolaeth

• Trafod meddyginiaethau â chleifion a gofalwyr, a datblygu amrywiaeth o ddulliau i gefnogi gofal ar sail gwybodaeth

• Addysgu cyd-weithwyr ynghylch rheoli meddyginiaethau ac optimeiddio  meddyginiaethau

Croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 06/08/2024.

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr mewn Fferylliaeth
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • MSc neu Ddiploma ôl-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Tiwtor cyn-gofrestru achrededig neu diwtor diploma fferylliaeth
  • Presgripsiynydd Annibynnol
  • Paratoi a Dosbarthu Meddyginiaethau mewn modd Aseptig (Prifysgol Leeds) neu gymhwyster cyfatebol os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig
  • Yn gofrestredig i Reoli Ansawdd os yw'r rôl yn cynnwys deunyddiau aseptig
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Gwybodaeth am ofal iechyd a phrofiad ohono
  • Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant lefel diploma a phrofiad
Meini prawf dymunol
  • Yn amlygu gwybodaeth arbenigol mewn mwy nag un maes
  • Profiad o ymchwil ymarfero
  • Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad o wella gwasanaethau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd â gwaith ar alwad, ac i agor gyda'r nos ac ar benwythnosau
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
James Sheldon
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager Scheduled Care
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
05728343821
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg