Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-ffisiolegydd Cardiaidd (Ecocardiograffydd)
Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol tan 01/09/2025.
Rydym yn chwilio am ffisiolegydd cardiaidd uchel ei gymhelliant, sy'n arbenigo mewn ecocardiograffeg, i ymuno â'n tîm cyfeillgar a dynamig sy'n darparu gofal a chymorth o safon uchel i gleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae ein gwasanaethau ecocardiograffeg yn darparu technegau ecocardiograffeg drawsthorasig a thechnegau ecocardiograffeg cymhleth, megis ecocardiograffeg drawsoesoffagaidd, dotwtamin, straen ymarfer corff a chyferbyniol. Mae'r adrannau am ddatblygu'r defnydd o ecocardiograffeg 3D, gan ymgorffori hyn mewn astudiaethau arferol.
Mae'r amserlen waith yn amrywiol, ac yn darparu gwasanaethau i gleifion mewnol, cleifion allanol, mynediad uniongyrchol i feddygon teulu, a chlinigau cardiaidd un stop. Mae'r adrannau hefyd yn cynnal clinigau i gadw gwyliadwriaeth ar falfiau a chlinigau clefyd cynhenid y galon i oedolion, ac maent yn cefnogi hyfforddiant i ecocardiograffwyr y dyfodol a'n meddygon graddfa hyfforddiant. Rydym hefyd yn cynnig ystod gynhwysfawr o
ymchwiliadau cardiaidd mewnwthiol ac anfewnwthiol, gan gynnwys gwasanaethau rheolydd calon, profion ymarfer corff, angiograffeg, a monitro'r gallu i gerdded.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid bod gan ymgeiswyr BSc Ffisioleg Glinigol (Cardioleg) neu gymhwyster cyfatebol, ac achrediad BSE neu achrediad cyfatebol. Dylent fod yn gymwys i gyflawni ecocardiogramau ac adrodd arnynt mewn modd annibynnol.
Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu i fod yn arweinydd clinigol ac i ddeall y prosesau ehangach sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau. Rydym yn ymfalchïo mewn bod â thîm amlddisgyblaethol cefnogol. Rydym yn annog ymgysylltiad agored wrth gynllunio a darparu gwasanaethau, ac yn chwilio am unigolyn sy'n awyddus i rannu gwybodaeth a syniadau mewn fforwm agored a chyfeillgar.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 15.08.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Ffisioleg Glinigol neu BTEC/HTEC MPPM neu gymhwyster cyfatebol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP) neu gofrestriad cyfatebol
- Gradd meistr neu lefel gyfatebol o brofiad trwy gyrsiau byr arbenigol
- Achrediad hyfedredd Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain neu achrediad hyfedredd cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn addysgu neu fentoriaeth
- Triniaeth Cynnal Bywyd Ar Unwaith (ILS)
- Hyfforddiant ar asesu clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad profedig o weithio yn annibynnol wrth gyflawni ecocardiogramau ac adrodd arnynt
- Cymhwysedd ac ymreolaeth profedig wrth gyflawni ymchwiliadau cardiaidd hynod o arbenigol ac adrodd arnynt
- Hyfforddi a goruchwylio myfyrwyr ac aelodau iau o staff
Meini prawf dymunol
- Cynnal clinigau dan arweiniad ffisiolegydd
- Defnyddio cyfryngau cyferbynnu
- Profiad o asesu clinigol
- Profiad o arwain tîm mewn modd effeithiol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catrin Williams
- Teitl y swydd
- Lead Clinical Scientist in Echocardiography
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 266 302
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector