Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cardioleg
Gradd
Gradd 7
Contract
18 mis (Dyma swydd cyfnod penodol/ secondiad tan 31/03/2026)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-HS019-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
24/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Cardioleg Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 31.03.2026 CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio ym maes gofal sylfaenol yn darparu 
gwasanaeth crychguriadau'r galon newydd. Y diben yw gweld cleifion â'r 
symptomau hyn, penderfynu ar ddiagnosis, a sicrhau eu bod yn cael triniaeth a chyngor ar ffordd o fyw. Mae'r rôl glinigol yn agored i ymgeiswyr o'r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, y Proffesiynau Gwyddor Gofal Iechyd a Nyrsio, ac mae'n cynnig cyfle cyffrous i unigolion profiadol sy'n hyderus wrth wneud diagnosis a rheoli afreoleidd-dra'r galon.

Bydd y clinigau'n cael eu darparu mewn lleoliadau gofal sylfaenol ledled Sir 
Gaerfyrddin ac mae'r gwasanaeth yn cael ei gefnogi'n gryf gan dimau'r practisau. Felly, mae'r gallu i deithio mewn modd amserol rhwng lleoliadau yn hanfodol. Darperir cymorth a goruchwyliaeth glinigol gan y tîm cymunedol afreoleidd-dra'r galon, sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Glangwili.

Nod y gwasanaeth yw archwilio a rhoi diagnosis i gleifion sydd â symptomau sy'n awgrymu afreoleidd-dra'r galon, a thrafod a rhoi cyngor ar gynlluniau rheoli a thrin ar y cyd ag uwch-staff meddygol ac uwch-ymarferwyr. At hynny, mae'r gwasanaeth yn darparu addysg a chyngor arbenigol mewn perthynas ag adnabod afreoleidd-dra'r galon, gwneud diagnosis, a rheoli clefyd rhythm y galon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mynd ati'n annibynnol i gyflawni llwyth achosion o gleifion ag anghenion cymhleth iawn, gan ddefnyddio egwyddorion seiliedig ar dystiolaeth sy’n canolbwyntio ar y cleient i ddadansoddi'n feirniadol, asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau. Bydd hyn yn cynnwys addysg, hybu iechyd, a chymorth yn achos pob agwedd ar gynllun trin a rheoli y claf.

Cydweithredu ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol ledled llwybrau a 
lleoliadau gofal gwahanol i sicrhau bod anghenion gofal iechyd cleifion yn cael eu diwallu. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso'r gwasanaeth presennol yn barhaus a myfyrio ar eich ymarfer eich hun. 

Bod yn adnodd arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ledled nifer o leoliadau, monitro a chefnogi gwasanaethau, a chymryd rhan yn y broses o lunio llwybrau, ymchwil addysg ac archwilio, gan hefyd fynd ati'n barhaus i feithrin a diweddaru'r wybodaeth a'r sgiliau tra arbenigol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

 

Cynhelir y cyfweliadau ar 08/08/24

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithiwr Iechyd Proffesiynol Perthynol i Iechyd Cofrestredig, Gweithiwr Proffesiynol ym maes Gwyddor Iechyd, neu Nyrs, neu dystiolaeth o gofrestriad perthnasol
  • Gradd Perthnasol
  • Cwrs cardiaidd ôl-raddedig perthnasol ar lefel 7 neu cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â chanllawiau clinigol allweddol, e.e. NICE, a'r modd y bydd y rhain yn dylanwadu ar ymarfer clinigol
  • Cymhwyster lefel Meistr perthnasol, neu'n gallu amlygu profiad a sgiliau cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu cydnabyddedig
  • Modiwl asesu clinigol a diagnostig neu barodrwydd i ymgymryd â hynny yn unol â gofynion y rôl
  • Cymhwyster arwain
  • Cymhwyster Gwella Ansawdd
  • Cymhwyster cwnsela
  • Presgripsiynydd anfeddygol neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant yn unol â gofynion y rôl

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru helaeth sy'n cynnwys gweithio mewn un neu ragor o lwybrau cardiaidd
  • Profiad o ymgymryd â chlinigau dan arweiniad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Gwyddonwyr Gofal Iechyd (ffisioleg glinigol) neu Nyrsys
  • Profiad o gynnal sesiynau addysg cleifion
  • Sgiliau cyflwyno
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Profiad o ymgymryd â gwaith ymchwil a/neu archwiliadau
  • Profiad o arwain a rheoli
  • Profiad o weithio amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio ym maes Gofal Sylfaenol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn rôl arbenigol
  • Profiad blaenorol o brosiectau i newid gwasanaethau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nerys James
Teitl y swydd
Cardiac & Respiratory Healthcare Sciences Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267266300
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg