Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deieteg
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol: Mae sylfaen yn drafodadwy fel y patrwm gweithio.
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
18.75 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP027-0325
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/04/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
30/04/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Deietegydd Pediatrig

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn Ddietegydd Pediatrig sy'n chwilio am gyfle rhan-amser newydd yn harddwch Gorllewin Cymru?

Mae Gwasanaeth Maeth a Dieteteg Hywel Dda yn chwilio am ddietegydd pediatrig rhanamser profiadol, ymroddedig i ymuno â'n tîm deieteg bediatrig arbenigol dynamig. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gyda phlant, pobl ifanc, eu teuluoedd a'u gofalwyr ac fel rhan o dimau amlddisgyblaethol pediatrig, i ddarparu cymorth deieteg arbenigol yn y gymuned a'r ysbyty, ar draws amrywiaeth o feysydd clinigol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus faes arbenigol o fewn ei rôl yn dibynnu ar ei sgiliau, ei brofiad a'i feysydd diddordeb. Gall y dietegydd fod wedi'i leoli mewn unrhyw sir yn y Bwrdd Iechyd, ond bydd ganddo gysylltiad cryf â'r ganolfan deieteg bediatrig ganolog yn 
Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Rydym yn croesawu ymweliadau anffurfiol a thrafodaeth bellach – cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth ac i gwrdd â'r tîm

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn mynd ati'n annibynnol i reoli llwyth achosion o blant a phobl ifanc ag anghenion amrywiol a chymhleth, gan ddarparu gofal maethol a deietig arbenigol ar draws llwybrau, gyda ffocws ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a deieteg sy'n cael ei lywio gan ganlyniadau. 

Defnyddio gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn perthynas â deieteg i wneud y canlynol: asesu, cynllunio a gweithredu triniaethau, a darparu ymyriadau deietig mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys y gymuned, ymhlith cleifion allanol, ac mewn ysbytai a lleoliadau grŵp, yn unol ag anghenion y claf, ei deulu a'i ofalwyr. 

Darparu addysg, hyfforddiant a chymorth arbenigol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â deiet a maethiad yn achos unigolion eraill sy'n gweithio gyda phlant pobl ifanc a theuluoedd.

Cyfrannu at waith y gwasanaethau deieteg a phlant, gan fynd ati i gymryd rhan yn y gwaith o'u datblygu, eu gwerthuso a'u gwella, ac o weithredu polisi, canllawiau a safonau.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiwn Atodiad 21 ar gael ar gais.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 30/04/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Deieteg
  • Cofrestru HCPC
  • Gwybodaeth glinigol arbenigol o ddieteg pediatrig a ddangosir trwy hyfforddiant a datblygiad wedi'i gwblhau i lefel diploma ôl-raddedig neu brofiad clinigol arddangosadwy cyfatebol.
  • Cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu gyfwerth.
  • Gwybodaeth am, a'r gallu i gymhwyso sail dystiolaeth i lywio gofal dietegol pediatrig.
  • Gwybodaeth weithredol o ganllawiau a pholisi proffesiynol a chlinigol sy'n berthnasol i ddeieteg bediatrig.
  • Gwybodaeth am fethodoleg gwella ansawdd yn ymarferol.
Meini prawf dymunol
  • Wedi cwblhau modiwlau Pediatrig Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA), neu hyfforddiant achrededig cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg ym maes dieteteg glinigol yn y GIG neu mewn lleoliad iechyd arall
  • Profiad deieteg eang a chyfunol o reoli llwyth achosion deieteg clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
  • Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy'n seiliedig ar wybodaeth glinigol
  • Cymryd rhan mewn prosiectau/gwella ansawdd/gwaith datblygu, ac iddynt ganlyniadau amlwg
  • Profiad o ymwneud â hyfforddiant Myfyrwyr.
  • Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
  • Dirprwyo i staff anghofrestredig.
  • Aelod o rwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Y gallu i deithio i ddarparu gwasanaethau yn y gymuned a gwasanaeth pediatrig acíwt

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Janice Reed
Teitl y swydd
Clinical Lead Paediatric Dietitian
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227067
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Rhian Thomas: Dietegydd Arweiniol Clinigol Pediatrig

01267 227067 / [email protected] 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg