Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
E-Amserlennu
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC166-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Glien
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
08/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Rheolwr y Gweithlu: e-amserlennu Meddygol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd Rheolwr y Gweithlu: e-amserlennu Meddygol yn gyfrifol am weithredu, rheoli, cynnal a datblygu'r system e-amserlennu meddygol yn y Bwrdd Iechyd. Bydd yn defnyddio gwybodaeth arbenigol am Delerau ac Amodau'r gwasanaeth o ran cyflogaeth yn y GIG i sicrhau bod pob rheolwr yn cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau'r Bwrdd Iechyd wrth greu a gweithredu amserlenni.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rheolwr y Gweithlu: e-amserlennu Meddygol fydd yr arbenigwr arweiniol, gan gefnogi'r Bwrdd Iechyd i ddadansoddi a llunio amserlenni i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y cleifion, y gwasanaeth a deddfwriaeth cyflogaeth. 

Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod rhaglen addysg gadarn, gynhwysfawr ar waith a fydd yn hyfforddi rheolwyr i ddefnyddio cyfleusterau llawn y system e-amserlennu i fanteisio i'r eithaf ar y system.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 08/08/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi eich addysgu hyd at lefel diploma ôl-raddedig neu'n gallu amlygu gwybodaeth sy'n cyfateb i'r lefel hon ym maes amserlennu
  • Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster proffesiynol ôlraddedig perthnasol neu brofiad cyfwerth
  • Y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
  • Gwybodaeth am Delerau ac Amodau Meddygol a Deintyddol
  • Cymhwyster rheoli neu gymhwyster perthnasol, neu brofiad priodol o reoli prosiectau ar lefel gyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o reoli prosiectau naill ai yn rhan o'r tîm neu yn rôl rheolwr prosiect
  • Profiad o weithio dan bwysau i derfynau amser mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Profiad blaenorol o weinyddu systemau TG Adnoddau Dynol neu ddatrysiadau TG eraill seiliedig ar gronfeydd data
Meini prawf dymunol
  • Profiad sylweddol o'r GIG, yn cynnwys y defnydd o e-systemau amserlennu
  • Profiad o ddatblygu a rheoli polisïau ac arferion Adnoddau Dynol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd a ledled Cymru/y DU yn ehangach mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Michelle James
Teitl y swydd
Head of Resourcing & Utilisation
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg