Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Endosgopi
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR122-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/05/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/05/2025
Teitl cyflogwr

Chwaer / Nyrs Gofal – Endosgopi
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle gwych wedi dod ar gael ar gyfer Prif Nyrs Band 6 yn yr Uned Endosgopi yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae hon yn swydd lawn-amser, gydag agwedd hyblyg tuag at wythnos waith chwe diwrnod ac mae'n cynnwys rota ar alwad y tu allan i oriau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o brofiad o endosgopi, a bydd yn aelod tîm brwdfrydig sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu effeithiol.
Bydd y swydd yn cynnwys gofalu am gleifion sy'n cael triniaethau endosgopig. Bod yn gyfrifol am yr uned, sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal a bod yn fentor i staff iau. Gweithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Helpu i ddatblygu pob agwedd ar y gwasanaeth endosgopi, yn unol â strategaethau’r Bwrdd Iechyd, a gweithio tuag at gynnal achrediad y Grŵp Cynghori ar y Cyd (JAG).
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 12/05/25
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Diploma ol-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/brofiad cyfatebol, a pharodrwydd i ymgymryd a gwaith astudio priodol ar lefel ol-raddedig)
- IQT Efydd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol)
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn uned Endosgopi
- Profiad priodol yn eich arbenigedd, a'r gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am yr arbenigedd perthnasol hwnnw
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2015)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o redeg ward/maes/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Profiad o addysgu a mentora myfyrwyr nyrsio neu fyfyrwyr bydwreigiaeth cyn-gofrestru, a hynny mewn modd ffurfiol/anffurfiol
- Dealltwriaeth o'r agenda ehangach mewn perthynas a nyrsio a gofal iechyd
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheoli goruchwyliol
- Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o Grŵp Cynghori ar y Cyd (JAG)
- Profiad o gydgysylltu tim
- Profiad o hwyluso dysgu yn ystod ymarfer, ac o ganlyniad iddo
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfredol ym maes nyrsio ac yn eich arbenigedd
- Ymwybyddiaeth o reolaeth ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rowena Thomas
- Teitl y swydd
- Senior Sister, Endoscopy Unit
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227359
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector