Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC160-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Gorwel
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
24/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-gynorthwyydd Cyfrifon

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a medrus iawn ymuno â'r Tîm Cyfrifyddu Rheoli. Byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddarparu'r holl swyddogaethau cymorth ariannol o ddydd i ddydd yn eich maes cyfrifoldeb o fewn y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â'r Tîm Cyfrifyddu Rheoli. 

Mae'r swydd hon hefyd yn darparu cymorth i dîm Partneriaethau Busnes Cyllid ddarparu gwybodaeth reoli ariannol gref, strategol ac o ansawdd uchel, cymorth busnes a chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer adrannau'r Bwrdd Iechyd. 

Byddwch yn feddyliwr beirniadol sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau cadarn, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion ac sydd â'r gallu i ddod yn gyfarwydd â gwybodaeth newydd yn gyflym. Mae sgiliau Excel da yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Fel cyswllt busnes allweddol rhwng gwahanol adrannau o fewn y maes Cyllid, mae'n hanfodol eich bod yn gyfathrebwr rhagorol. 

Mae Digwyddiad Recriwtio Cyllid yn cael ei gynnal ar 10/07/2024 rhwng 4yp-7yp i chi ddod draw i ofyn cwestiynau am yr adran, gan gynnwys y swydd wag hon! Cofrestrwch eich presenoldeb trwy glicio ar y ddolen hon Cofrestru Digwyddiad Gwybodaeth & Gwybodaeth Cyllid (office.com)
 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rôl yr Uwch-gynorthwywyr Cyfrifon yw canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cadarn o ran Rheolaeth ac Adroddiadau Ariannol er mwyn bodloni'r agwedd hon ar ddyletswyddau ariannol y Bwrdd Iechyd – sef cyflawni eu targedau ariannol. Cefnogi deiliaid cyllidebau, uwch-staff cyllid a phartneriaid busnes i reoli yn unol â'r adnoddau ariannol sydd ar gael.

Dadansoddi ac adrodd ar incwm a gwariant i ddeiliaid y gyllideb a'r uwch-staff cyllid. Cyfrannu at y gwaith o lunio adroddiadau ariannol misol, monitro ffurflenni, cyfrifon blynyddol a gosod cyllidebau yn unol â'r amserlen adrodd.

Darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth ariannol i'r swyddogaeth gyllid a meysydd y gwasanaeth, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn amserol ac yn gadarn.

Darparu cymorth priodol i sicrhau bod meysydd y gwasanaeth yn bodloni eu dyletswyddau ariannol a'u datganiadau statudol ac ariannol eraill, a chefnogi datblygiadau o ran cyllid corfforaethol.

Darparu cymorth a chyngor o ddydd i ddydd i'r Uwch-staff, yn ôl y gofyn.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 24/07/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Pum TGAU, gan gynnwys Mathemateg
  • Cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth
  • Wedi cymhwyso hyd at AAT (cymhwyster llawn) neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â phrofiad
  • Gwybodaeth arbenigol flaenorol am Gyfrifon Rheoli a/neu Gyfrifyddu Cyllid a gwella systemau/prosesau
  • Gwybodaeth am gyfrifyddu technegol/system adrodd P2P
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Dilyniant i gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol
  • System Adrodd Oracle

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol helaeth o gyfrifyddu
  • Profiad o systemau Cyllid
Meini prawf dymunol
  • Profiad ariannol blaenorol yn y GIG

Amgylchiadau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd
  • Y gallu i weithio oriau hyblyg
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i weithio oriau ychwanegol yn ôl y gofyn

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Stephen Gravell
Teitl y swydd
Assistant Finance Business Partner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 248604
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Anfonwch neges e-bost i ofyn am drefnu galwad ffôn i drafod y rôl yn anffurfiol. 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg