Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC160-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Gorwel
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Uwch-gynorthwyydd Cyfrifon
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a medrus iawn ymuno â'r Tîm Cyfrifyddu Rheoli. Byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddarparu'r holl swyddogaethau cymorth ariannol o ddydd i ddydd yn eich maes cyfrifoldeb o fewn y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â'r Tîm Cyfrifyddu Rheoli.
Mae'r swydd hon hefyd yn darparu cymorth i dîm Partneriaethau Busnes Cyllid ddarparu gwybodaeth reoli ariannol gref, strategol ac o ansawdd uchel, cymorth busnes a chymorth ariannol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer adrannau'r Bwrdd Iechyd.
Byddwch yn feddyliwr beirniadol sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau cadarn, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion ac sydd â'r gallu i ddod yn gyfarwydd â gwybodaeth newydd yn gyflym. Mae sgiliau Excel da yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Fel cyswllt busnes allweddol rhwng gwahanol adrannau o fewn y maes Cyllid, mae'n hanfodol eich bod yn gyfathrebwr rhagorol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rôl yr Uwch-gynorthwywyr Cyfrifon yw canolbwyntio ar gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cadarn o ran Rheolaeth ac Adroddiadau Ariannol er mwyn bodloni'r agwedd hon ar ddyletswyddau ariannol y Bwrdd Iechyd – sef cyflawni eu targedau ariannol. Cefnogi deiliaid cyllidebau, uwch-staff cyllid a phartneriaid busnes i reoli yn unol â'r adnoddau ariannol sydd ar gael.
Dadansoddi ac adrodd ar incwm a gwariant i ddeiliaid y gyllideb a'r uwch-staff cyllid. Cyfrannu at y gwaith o lunio adroddiadau ariannol misol, monitro ffurflenni, cyfrifon blynyddol a gosod cyllidebau yn unol â'r amserlen adrodd.
Darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth ariannol i'r swyddogaeth gyllid a meysydd y gwasanaeth, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn amserol ac yn gadarn.
Darparu cymorth priodol i sicrhau bod meysydd y gwasanaeth yn bodloni eu dyletswyddau ariannol a'u datganiadau statudol ac ariannol eraill, a chefnogi datblygiadau o ran cyllid corfforaethol.
Darparu cymorth a chyngor o ddydd i ddydd i'r Uwch-staff, yn ôl y gofyn.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 24/07/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Pum TGAU, gan gynnwys Mathemateg
- Cymwysterau Safon Uwch neu gyfwerth
- Wedi cymhwyso hyd at AAT (cymhwyster llawn) neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â phrofiad
- Gwybodaeth arbenigol flaenorol am Gyfrifon Rheoli a/neu Gyfrifyddu Cyllid a gwella systemau/prosesau
- Gwybodaeth am gyfrifyddu technegol/system adrodd P2P
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Dilyniant i gymhwyster cyfrifyddu proffesiynol
- System Adrodd Oracle
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol helaeth o gyfrifyddu
- Profiad o systemau Cyllid
Meini prawf dymunol
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG
Amgylchiadau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd
- Y gallu i weithio oriau hyblyg
Meini prawf dymunol
- Y gallu i weithio oriau ychwanegol yn ôl y gofyn
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Stephen Gravell
- Teitl y swydd
- Assistant Finance Business Partner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 248604
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anfonwch neges e-bost i ofyn am drefnu galwad ffôn i drafod y rôl yn anffurfiol.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector