Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC108-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Gorwel, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Dadansoddwr Cyllid (Adroddiadau Corfforaethol)
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig, medrus a llawn cymhelliant ymuno â'r Tîm Adrodd a Chynllunio Corfforaethol fel Dadansoddwr Cyllid. Mae gan y Tîm Adrodd a Chynllunio Corfforaethol rôl unigryw a diddorol o ran rheoli ac adrodd ar sefyllfa ariannol gyffredinol, cynllun blynyddol a sefyllfa gyllidebol y Bwrdd Iechyd, ac mae'n gweithio'n agos gyda phob tîm ledled y swyddogaeth Gyllid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
A chithau'n Ddadansoddwr Cyllid, byddwch yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer y tîm Adrodd a Chynllunio Corfforaethol, ac mae’r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys y canlynol:
• Paratoi adroddiadau ariannol misol yn gywir y tro cyntaf, ynghyd â sylwebaeth ategol.
• Rheoli a chysoni elfennau allweddol canolog y gyllideb Adrodd Corfforaethol.
• Adolygiad dadansoddol a rheoli setiau data mawr.
Mae'r sgiliau allweddol sy’n ymwneud â’r rôl yn cynnwys:
• Profiad helaeth o weithio gyda Microsoft Excel.
• Profiad o Systemau Ariannol.
• Sgiliau dadansoddol cadarn.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Bydd gofyn i chi gefnogi'r agenda gwella prosesau, gan chwilio am arbedion effeithlonrwydd yn y tîm.
Byddwch yn feddyliwr beirniadol sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau cadarn, sy'n rhoi sylw trylwyr i fanylion, ac sydd â'r gallu i ymgyfarwyddo â gwybodaeth newydd yn gyflym.
O fod yn gyswllt allweddol a chanolog rhwng gwahanol adrannau ym maes Cyllid, mae'n hanfodol eich bod yn gyfathrebwr effeithiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23/04/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- TGAU a Safon Uwch gan gynnwys Mathemateg
- Addysg hyd at lefel Diploma Ôl-raddedig neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â phrofiad ariannol perthnasol sylweddol
- Gwybodaeth arbenigol flaenorol o Gyfrifon Rheoli, Cyfrifyddu Ariannol neu wella prosesau
- Profiad ar lâ phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol amlwg
- Gwybodaeth am systemau ariannol integredig
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster CCAB, yn astudio ar gyfer Cymhwyster Cyfrifeg proffesiynol, neu'n dymuno symud ymlaen tuag at hynny
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
- Gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas ag Adrodd am Ddangosfwrdd SQL a Power Bi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyfleu gwybodaeth wleidyddol sensitif iawn, yn ysgrifenedig ac ar lafar, i randdeiliaid mewnol ac allanol
- Profiad o reoli a mentora staff ynghyd â'r gallu i'w cefnogi a'u hysgogi
- Profiad o gyflwyno allbynnau o ansawdd uchel yn unol â therfynau amser heriol
- Profiad o weithio gyda setiau data sylweddol a'u dadansoddi'n effeithlon
Meini prawf dymunol
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG, y Sector Cyhoeddus neu mewn sefydliad mawr a chymhleth
- Profiad o reoli gwelliannau i brosesau, newid ac ymddygiadau cysylltiedig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
- Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
Meini prawf dymunol
- Siaradwyr Cymraeg (Lefel 1)
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau Microsoft Excel uwch a galluoedd dadansoddi craff
- Y gallu i ddatrys problemau yn eich maes gwaith
- Y gallu i drefnu eich llwyth gwaith eich hun a'r rheiny sy'n adrodd yn uniongyrchol, a hynny i fodloni terfynau amser gan hefyd flaenoriaethu galwadau gwrthgyferbyniol
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyflwyno gwybodaeth ariannol gymhleth mewn ffordd ddealladwy i gyd-weithwyr nad ydynt yn ymwneud â chyllid
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mared Jones
- Teitl y swydd
- Assistant Head of Corporate Reporting & Planning
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector