Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth a Llywodraethu Proffesiynol Menywod & Phlant
NHS AfC: Band 9
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn rôl newydd gyffrous ac yn gyfle ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer arweinydd clinigol profiadol. Bydd deiliad y swydd yn gosod safonau clinigol uchel ac yn bodloni gofynion rheolaethol o ran cyflenwi Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Menywod a Phlant ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Bydd yn gweithio ledled y Gyfarwyddiaeth gyfan i lywio'r gwasanaeth i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, gan sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu mewn modd diogel, a chan ymdrechu i ragori bob amser yn unol â'r adnoddau sydd ar gael.
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a chlinigol arbenigol, a bydd gennych gyfrifoldeb cyffredinol am arweinyddiaeth broffesiynol o ran Llywodraethu Ansawdd ar draws Bydwreigiaeth a'r Gwasanaethau Menywod.
Byddwch yn mynd ati i arwain a chyfrannu at y gwaith o fformiwleiddio cynlluniau strategol hirdymor i lywio'r broses cyflawni gweithredol. Byddwch yn arweinydd awdurdodol, tosturiol a thrawsnewidiol sy'n gallu meithrin perthnasoedd cadarn â rhanddeiliaid wrth i chi gefnogi'r sefydliad i ymdrechu i ragori. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio â Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ystyried trefniadau cynllunio rhanbarthol a thrydyddol, fel y bo'n briodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r rôl yn rôl uwch-arweinyddiaeth bwysig sy'n gweithio'n rhan o grŵp gofal clinigol Gofal wedi'i Gynllunio a Gofal Arbenigol, grŵp sy'n broffesiynol atebol i'r Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y Claf, gan ddarparu cyngor strategol a gweithredol
arbenigol ar faterion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Menywod a Phlant ledled y Bwrdd Iechyd. Byddwch yn broffesiynol atebol am ansawdd a diogelwch y broses o ddarparu gwasanaethau Menywod a Phlant ac am gynnal safonau proffesiynol a glynu wrth safonau'r Cyngor Nyrsio a
Bydwreigiaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 29/08/2024.
Cynhelir cyfweliadau ar 30/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydwraig gofrestredig sy'n meddu ar gofrestriad Nyrsio a Bydwreigiaeth cyfredol
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol ar lefel nyrsio uchel iawn
- Wedi eich addysgu hyd at lefel Meistr neu wedi cael hyfforddiant arbenigol cyfatebol
- Datblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth fanwl helaeth am faterion ledled y GIG a'r agenda cleifion
- Gwybodaeth helaeth am faterion cyfredol sy'n gysylltiedig â bydwreigiaeth broffesiynol ac ymarfer nyrsio
- Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o ymchwil
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster arweinyddiaeth
- Profiad ffurfiol o reoli prosiectau
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol ar lefel bydwreigiaeth uchel iawn
- Profiad sylweddol o ran uwch-reolaeth weithredol ledled lleoliadau gofal iechyd
- Profiad o ddatblygu fframweithiau llywodraethu i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau
- Profiad o arwain a gweithredu prosesau gwella/ailgynllunio gwasanaethau ym maes gofal iechyd
- Gallu profedig i weithio ar draws systemau a ffiniau sefydliadol, ac i ddatblygu rhwydweithiau a chynghreiriau
- Profiad o reoli materion proffesiynol/ymgyfreitha
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Carruthers
- Teitl y swydd
- Chief Operating Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector