Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Executives VSM
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-EXEC-NMR-0225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Adeilad Ystwyth, Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
tua £150,000 y flwyddyn
Yn cau
02/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf

Executives VSM

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw sefydliad lleol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. 

Fel bwrdd iechyd, rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer bron 400,000 o bobl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro. Rydym yn rheoli ac yn talu am y gofal a’r driniaeth a ddarperir i bobl yn yr ardal hon ar gyfer iechyd corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu. 

Mae ein strategaeth uchelgeisiol yn ceisio datblygu a gweithredu proses i drawsnewid y ffordd y darparwn wasanaethau gofal iechyd, trwy ymrwymiad i symud o system sy’n canolbwyntio ar driniaeth a diagnosis i un lle mae atal afiechyd yn weithgaredd craidd a lle mae llesiant pobl yn cael ei gymryd i ystyriaeth. Mae ein Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Llesiant, fel y’i gelwir, yn rhan ganolog o’n strategaeth 10 mlynedd.

I wireddu’r uchelgais hwn, ni allwn weithio ar ein pennau ein hunain. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol, busnesau a chymunedau i wella nid yn unig y gwasanaethau a ddarparwn ond hefyd yr amgylchiadau lle’r ydym yn tyfu i fyny, yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn heneiddio’n dda. 

Mae’r tair blynedd diwethaf wedi dangos yn glir bwysigrwydd y perthnasoedd hyn. Allan o adfyd, mae’r cysylltiadau hyn wedi ffynnu, wrth i bartneriaethau presennol gael eu cryfhau a rhai newydd gael eu creu ar draws sectorau, i reoli effaith uniongyrchol a thymor hwy y pandemig. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel y Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf, byddwn yn disgwyl i chi arwain ein gweledigaeth strategol gyda’r timau nyrsio a bydwreigiaeth i’n galluogi i ddatblygu’r cyfleoedd hyn ymhellach a hyrwyddo ein huchelgeisiau ar gyfer poblogaeth iachach a hapusach, y mae ei llesiant yn rhan ganolog o’n meddylfryd. 

Rhaid i chi fod yn arweinydd ysbrydoledig, creadigol a gweladwy sy’n hyrwyddo buddiannau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.  Fel arweinydd nyrsio profiadol sy’n gweithio ar lefel gorfforaethol neu’n agos at lefel y Bwrdd, byddwch yn dod â gweledigaeth a hygrededd i’r rôl.  Byddwch yn gyfforddus wrth feithrin perthnasoedd ag ystod eang o randdeiliaid yn y sefydliad, yn ein system iechyd ehangach ac yn ein cymunedau a bydd eich diddordeb angerddol mewn arweinyddiaeth broffesiynol a chlinigol yn cyd-fynd ag egni a brwdfrydedd ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth arloesol, ymroddedig. Afraid dweud bod rhaid hefyd i chi fod wedi’ch cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Os tybiwch mai hon yw’r rôl i chi ac mai chi yw’r sawl a ddisgrifir uchod, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. Rydym wedi cynnwys pecyn ymgeisydd sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ein Bwrdd Iechyd a’r rôl hon ac os hoffech drafod y rôl, byddai Phil Kloer, ein Brif Weithredwr yn falch iawn o siarad â chi.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 02/03/2025 ac fe welwch sut i gyflwyno cais yn y pecyn recriwtio.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad cyfredol fel nyrs neu fydwraig â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Tystiolaeth o ddatblygu arweinyddiaeth a rheolaeth.
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.lopment.
  • Wedi eich addysgu i lefel gradd Meistr.

Profiad a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithredu’n effeithiol ar lefel strategol mewn sefydliad sy’n comisiynu neu’n darparu gwasanaethau iechyd.
  • Profiad diamheuol o weithio a chyfrannu ar lefel Bwrdd.
  • Profiad rheolaethol neu broffesiynol sylweddol.
  • Profiad helaeth o gydweithio’n effeithiol â sefydliadau eraill yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
  • Profiad o gynllunio a datblygu strategol.
  • Tystiolaeth o gyfraniad gweithredol mewn gwaith gwella gwasanaethau ac effeithlonrwydd.
  • Profiad o ddatblygu hygrededd personol a phroffesiynol gyda Bwrdd, timau rheolaethol a chlinigol, a staff.
  • Gwybodaeth helaeth am yr agenda nyrsio proffesiynol ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd.
  • Gwybodaeth helaeth am lywodraethu clinigol a chorfforaethol a’i gymhwysiad ar draws y gwasanaeth iechyd.
  • Gwybodaeth helaeth am gymhlethdodau system weithredu’r GIG ac effaith gweithgareddau statudol ac anstatudol y sector cyhoeddus a’r sector preifat ar iechyd a gofal iechyd.
  • Gwybodaeth helaeth am y cysylltiadau rhwng cynllunio’r gweithlu, addysg a datblygu’r gweithlu.
  • Dealltwriaeth drylwyr o’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
  • Gwybodaeth fanwl am y ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad cysylltiedig ag iechyd mewn unigolion a phoblogaethau.

Galluoedd a Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu bod yn Llysgennad ar ran y BIP
  • Modelu ymddygiad priodol wrth dderbyn a chyflwyno adroddiadau cadarnhaol a negyddol ynghylch profiad y claf.
  • Arwain trwy siampl, gan hyrwyddo’r safonau uchaf o ymarweddiad, uniondeb a gonestrwydd personol a phroffesiynol.
  • Yn ymrwymedig i'r broses barhaus o ddatblygu staff a chi eich hun.
  • Ymrwymiad i ddatblygu diwylliant agored a phartneriaeth.
  • Lefel uchel o hunanymwybyddiaeth, a dealltwriaeth o’ch emosiynau, eich cryfderau a’ch cyfyngiadau eich hun.
  • Sicrhau eich bod yn bodloni eich gofynion eich hun o ran ailddilysu a chymwyseddau’r NMC.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Phil Kloer
Teitl y swydd
Chief Executive
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Lisa Gostling 

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol/Dirprwy Brif Weithredwr

[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Resourcing Team
Hafan Derwen
Carmarthen
SA31 3BB
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg