Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapydd Galwedigaethol
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Oriau cywasgedig
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP074-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Cymuned ar draws tair sir– i'w gadarnhau gyda'r ymgeisydd
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/08/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Therapydd Galwedigaethol Profiadol– ARFID Plant/Phobl Ifanc
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Therapydd Galwedigaethol, y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed (S-CAMHS), y Gwasanaeth ARFID.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu penodi Therapydd Galwedigaethol arloesol, rhagweithiol a brwdfrydig i ymuno â'n gwasanaeth arbenigol newydd i blant a phobl ifanc ag Anhwylder Cymeriant Bwyd Cyfyngol ac Osgoilyd (ARFID). Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r gwasanaeth hwn yn rôl yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Therapi
Galwedigaethol yn y maes ymarfer newydd hwn sy'n esblygu. Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Anhwylderau Bwyta S-CAMHS, lle mae Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol eisoes yn y swydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i chi fod yn gyfrifol am lwyth cymhleth wrth weithio mewn amgylcheddau clinigol, addysg a'r cartref, a bydd yn ofynnol i chi gysylltu'n agos â'r Therapydd Galwedigaethol Arweiniol Clinigol ar tîm amlddisgyblaethol yn y gwasanaeth ARFID, a hefyd â therapyddion galwedigaethol mewn rolau eraill sy'n cefnogi Plant a Phobl Ifanc yn y Bwrdd Iechyd.
Bydd gofyn i chi hefyd gysylltu â rhwydweithiau proffesiynol ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig sy'n ymwneud â'ch maes arbenigedd, a hynny mewn perthynas â datblygu'r gwasanaeth, llywodraethu clinigol a gwella ymarfer clinigol.
Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gynnig hyfforddiant a chymorth i’r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ehangach ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, goruchwylio staff a chynnig lleoliadau clinigol i gefnogi datblygiad myfyrwyr therapi galwedigaethol yng Nghymru.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol, sy'n cynnwys Deieteg, Seicoleg a Staff Cymorth Therapi. Bydd yn ofynnol i ddeiliad llwyddiannus y swydd gefnogi'r gwaith o gynllunio a sefydlu'r gwasanaeth newydd hwn, gan ddatblygu llwybrau sy'n canolbwyntio ar y claf yn y gwasanaeth ARFID. Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn asesiadau a chlinigau amlddisgyblaethol, ochr yn ochr â chynnal asesiadau Therapi Galwedigaethol arbenigol ar y cyd ag aelodau eraill o'r gwasanaeth ARFID, yn ôl y gofyn.
Bydd disgwyl i ddeiliad llwyddiannus y swydd ymgysylltu â rhwydweithiau'r gwasanaeth a rhwydweithiau proffesiynol ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r gwasanaeth, datblygu'r gwasanaeth a llywodraethu clinigol, ac i wella arfer clinigol.
Gan fod hwn yn faes ymarfer newydd, darperir hyfforddiant yn ôl y gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Gwahoddir ceisiadau gan therapyddion galwedigaethol sydd â phrofiad amlwg o weithio gyda phlant a phobl ifanc, neu gan therapyddion galwedigaethol sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ag Anhwylderau Bwyta.
A ninnau'n wasanaeth therapi galwedigaethol cyffrous, arloesol a chefnogol, rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch darparu gwasanaeth o safon uchel i’r plant a’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw. Mae gennym ffocws cryf ar arweinyddiaeth dosturiol a gwella gwasanaethau mewn modd arloesol. Mae yna gyfoeth o wybodaeth a phrofiad clinigol o fewn y tîm, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol staff. Mae gennym raglen DPP sefydledig ac rydym yn barod i gefnogi cyfleoedd hyfforddi ffurfiol lle bo angen.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio ar draws ôl troed y Bwrdd Iechyd; bydd lwfans milltiredd yn daladwy ac mae cynllun ceir prydles ar gael.
Edrychwn ymlaen at groesawu ymholiadau anffurfiol, yn ogystal â'ch cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 07/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol gyfredol sy'n berthnasol i'r rôl
- Gwybodaeth am feddalwedd Microsoft Office, ac yn gallu ei defnyddio
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi Yn deall ac yn gallu cymhwyso dulliau llywodraethu clinigol, gan gynnwys methodoleg ymchwil ac archwilio
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso mesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am wasanaethau eraill sy'n cysylltu ar draws gofal sylfaenol/eilaidd/canolraddol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i flaenoriaethau
- Addysgwr Ymarfer Achrededig
- Asesydd Agored Achrededig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig sylweddol o weithio yn rôl therapydd galwedigaethol ledled ystod o leoliadau ac amrywiaeth o gyflyrau
- Rheoli llwyth gwaith cymhleth ac amrywiol
- Gweithio'n annibynnol gyda goruchwyliaeth anuniongyrchol neu hyd braich
- Dirprwyo a goruchwylio staff
- Profiad o ymdopi'n annibynnol â sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith heriol
- Gweithio'n rhan o dîm
- Profiad o gyfrannu at y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ac o weithredu newidiadau i wasanaethau
- Ymwneud yn uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Hunanddatblygu a chymhwyso dysgu
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella canlyniadau'r claf
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir i ddarparu gwasanaeth
- Profiad yn yr un maes clinigol â'r swydd y gwneir y cais amdani
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Melanie Newbery
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Occupational Therapist, ARFID
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07929663319
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sarah White, Arweinydd Gwasanaeth am ARFID - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector