Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncoleg
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR071-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/03/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/03/2025
Teitl cyflogwr

Nyrs Glinigol Arbenigol Arweiniol mewn Oncoleg
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd sefydledig o fewn arbenigedd oncoleg ac yn dod â chyfoeth o brofiad ac arloesedd i'r rôl. Bydd profiad o reoli eraill yn hanfodol gan y bydd y swydd yn gyfrifol am reolaeth linell yn achos y Tîm Nyrsys Clinigol Arbenigol cyfredol ledled y Bwrdd Iechyd, ac felly byddwn yn chwilio am fodel rôl ardderchog a all addysgu a grymuso'r tîm presennol, a hefyd amlygu arweinyddiaeth dosturiol.
Bydd yn ofynnol meddu ar brofiad o reoli llwyth achosion cleifion gyda chyn lleied o oruchwyliaeth â phosibl mewn model anfeddygol, ynghyd â'r gallu i deithio ar draws safleoedd ysbytai yn unol ag anghenion y gwasanaeth a chleifion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meithrin perthnasoedd proffesiynol cryf â chyd-weithwyr ym maes Oncoleg yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru yn Abertawe, Fferyllwyr Canser, timau'r Uned Triniaeth Gwrth-ganser Systemig (SACT) lleol, y Timau Oncoleg Acíwt, yn ogystal â thimau cymunedol megis Gofal Sylfaenol a'r Timau Nyrsio Cymunedol. Bydd cymwysterau lefel Meistr perthnasol gan gynnwys presgripsiynu anfeddygol, cydymffurfedd ag IRMER, ynghyd â phrofiad o SACT yn ofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth i’r tîm Nyrsys Clinigol Arbenigol oncoleg ehangach, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli clinigau gwenwyndra SACT a gynhelir gan glinigwyr cymysg, a hynny mewn modd rhagweithiol o fewn model cleifion allanol, gan gynnwys clinigau rhithwir, cefnogi amryw o oncolegwyr a gweithio’n agos gyda’r Fferyllydd Canser Arweiniol a chyd-weithwyr fferyllol eraill.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/03/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn Nyrs Gofrestredig Gyffredinol (RGN) ar y gofrestr ymarfer
- Cymhwyster Gradd Meistr/lefel Meistr mewn Oncoleg/nyrsio canser neu wybodaeth gyfatebol
- Presgripsiynydd Anfeddygol Cofrestredig
Meini prawf dymunol
- Cwrs cemotherapi achrededig
- Cwrs Rheoli
- Gwybodaeth am egwyddorion gofal lliniarol
- Cymhwyster IR(ME)R
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o nyrsio Canser/Oncoleg hyd at lefel meistr
- Sgiliau a phrofiad ym maes cwnsela
- Profiad helaeth blaenorol o weithio yn y maes arbenigedd
- Profiad o wneud penderfyniadau cymhleth
- Profiad lle bu rhywfaint o waith ymreolaethol yn ofynnol
- Profiad o weithio amlbroffesiynol
- Profiad o arwain a rheoli
Meini prawf dymunol
- Rheoli
- Tystysgrif Cwnsela
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gina Beard
- Teitl y swydd
- Lead Cancer Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Bleddyn Edwards, Fferyllydd Canser Arweiniol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector