Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cleifion Allanol
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS179-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Os ydych yn unigolyn dynamig a gofalgar a hoffai ymuno â thîm sy'n teimlo'n angerddol ynghylch darparu gofal o ansawdd uchel i'w gleifion, yna rydym am glywed gennych.
Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 rhan amser yn ein Hadran Cleifion Allanol brysur, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Cleifion Allanol yw drws ffrynt taith y claf i ofal iechyd wedi'i gynllunio, a'r allanfa i reolaeth iechyd lwyddiannus. Mae'r gwasanaethau Cleifion Allanol yn cynnig profiad mewn ystod eang o arbenigeddau ac mae'n amgylchedd amrywiol, amlddisgyblaethol sy'n gofyn am sgiliau hyblyg y gellir eu haddasu, y gallu i ddysgu, a'r cymhelliant i ddatblygu eich sgiliau eich hun.
Mae'r gwasanaethau Cleifion Allanol yn ymrwymedig i werthoedd y Bwrdd Iechyd, ac yn ymfalchïo mewn darparu profiad cadarnhaol i gleifion o ran y modd yr ydym yn rhoi gwerth ar ein cleifion yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn flaengar ac yn cwmpasu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd yn llawn yn ei waith. Bydd arnoch angen sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i fod yn eiriolwr ar gyfer cleifion.
Mae hon yn swydd rhan amser am 30 awr yr wythnos. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn weithredol o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae'r oriau'n amrywio rhwng 8yb - 6yh, ynghyd ag ambell glinig gyda'r nos tan 8yh.
Byddwch yn gweithio'n rhan o'r tîm nyrsio yn cyflawni ystod o ddyletswyddau i sicrhau bod y broses o ddarparu clinigau yn rhedeg yn esmwyth. Byddwch yn ymgymryd ag ystod o arsylwadau/profion clinigol sy'n ofynnol ar gyfer clinigau amrywiol.
Bydd gofyn i chi hefyd fod yn hebryngwr yn ystod ymgyngoriadau, a chynorthwyo clinigwyr i ddarparu triniaethau.
Byddwch yn helpu i gynnal safonau uchel o lendid a sicrhau bod polisïau rheoli heintiau yn cael eu dilyn.
Rhoddir hyfforddiant llawn a sesiynau cynefino i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 12/7/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Dealltwriaeth o ofynion y rol
Meini prawf dymunol
- Yn meddu ar ddyfarniad NVQ Lefel II, neu'n gweithio tuag ato
- TGAU neu gymwysterau tebyg
- Profiad blaenorol o weithio mewn ysbyty
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn rhan o dim
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal
Sgilliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Gowman
- Teitl y swydd
- Senior Sister, Outpatients
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227835
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector