Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Pediatreg
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP025-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £54,550 - £61,412 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/04/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/04/2025
Teitl cyflogwr

Deietegydd Arweiniol y Gwasanaeth Pediatrig
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn arweinydd clinigol dieteteg bediatrig profiadol sy'n frwd dros bediatreg ac yn barod am gyfle newydd cyffrous? A hoffech fyw a gweithio yn harddwch Gorllewin Cymru ac ymuno â thîm dynamig sy'n hyrwyddo pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith?
Rydym yn chwilio am Arweinydd Gwasanaeth ar gyfer Dieteteg Bediatrig Band 8A, rhan-amser (0.5 wte), a fydd wedi’i leoli yn hwb y tîm dieteteg bediatrig yng Nghaerfyrddin. Byddwch yn arwain ac yn rheoli’r gwasanaeth deieteg bediatrig ar draws y Bwrdd Iechyd, ac yn llywio ac yn dylanwadu ar ofal plant a phobl ifanc yn y dyfodol trwy weithio fel rhan o’r tîm arweinyddiaeth pediatrig aml-broffesiynol.
Bydd deiliad y swydd yn arwain yn glinigol mewn maes ymarfer i'w gytuno arno â’r ymgeisydd llwyddiannus, yn defnyddio methodoleg gwella i gefnogi datblygiad y gwasanaeth, ac yn gweithio fel rhan o’r uwch-dîm arwain deieteg i sicrhau y darperir gwasanaeth maeth a dieteteg o ansawdd uchel sydd wedi’i lywodraethu’n dda.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Arwain yn strategol y gwaith o ddatblygu, gweithredu, darparu a gwerthuso gwasanaethau deieteg bediatrig ledled y Bwrdd Iechyd.
Gweithio fel aelod annatod o’r uwch-dîm arwain amlddisgyblaethol pediatrig, gan ysgogi dulliau darbodus aml-broffesiynol, gwaith partneriaeth ac arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Bod yn glinigydd deieteg bediatrig arbenigol; rheoli llwyth achosion clinigol cymhleth, arwain y gwaith o reoli pediatrig mewn modd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ledled y Bwrdd Iechyd, llywio ac arwain gwaith cynllunio, datblygu polisïau, hyfforddiant ac addysg, bwrw ymlaen â gwella ansawdd, ac alinio gwasanaethau â strategaethau a chanllawiau cenedlaethol, proffesiynol, a rhai'r Bwrdd Iechyd.
Arwain y gwasanaeth deieteg bediatrig, i gynnwys dyletswyddau rheoli llinell ac arwain tîm, gan sicrhau bod yna strwythur arweinyddiaeth a llywodraethu effeithiol.
Gweler y swydd-ddisgrifiad am fanylion llawn y rôl. Rydym yn croesawu trafodaeth anffurfiol ac ymweliadau i gwrdd â'r tîm.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23/04/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
- Gwybodaeth glinigol broffesiynol ychwanegol a/neu gymwysterau a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol, cymhwyster neu brofiad cyfatebol: parodrwydd i weithio tuag at gymhwyster Gradd Meistr
- Gwybodaeth glinigol arbenigol am Ddeieteg Bediatrig
- Yr wybodaeth a'r gallu i gymhwyso methodoleg seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi ymgysylltiad, gwelliant, a'r broses o gynllunio gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Meistr
- Cymhwyster rheoli/arwain
- Cymhwyster Cyf-weld Ysgogiadol Ffurfiol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o ddarparu deieteg glinigol ym maes deieteg bediatrig
- Profiad sylweddol o reoli llwyth gwaith cymhleth, heriol gan ddefnyddio sgiliau rhesymu clinigol uwch
- Profiad ôl-raddedig sylweddol o arwain tîm a rheolaeth linell
- Gwaith amlbroffesiynol
- Arwain prosiectau/gwella ansawdd/gwaith datblygu, ynghyd â chanlyniadau amlwg
- Gweithio ar lefel strategol ac ymgysylltu a dylanwadu
- Ymchwil/archwilio clinigol a dehongli tystiolaeth newydd i'w rhoi ar waith
- Cynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni addysg a hyfforddiant arbenigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain gwaith cenedlaethol, rhwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol
- Rheoli cyllideb ddirprwyedig ac adnoddau.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio er mwyn cyflawni'r rôl ar draws y Bwrdd Iechyd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Zoe Paul-Gough
- Teitl y swydd
- Joint Head of Nutrition & Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07875 671231
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector