Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Perfformiad
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC142-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Dadansoddwr Gwella Perfformiad
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn bwriadu penodi unigolyn brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Perfformiad i helpu i lywio gwelliannau o ran perfformiad ledled y Bwrdd Iechyd. Mae'r Tîm Perfformiad yn dîm bach, cefnogol, cynhwysol a chyfeillgar.
Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gleifion, staff a phoblogaeth ehangach Hywel Dda.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn frwd dros wella perfformiad, bod â sgiliau data amlwg a dealltwriaeth gadarn o adrodd corfforaethol, bod yn gyfforddus yn hyfforddi cyd-weithwyr, bod yn gyfathrebwr da, a bod â'r gallu i roi sylw trylwyr i fanylion. Bydd hefyd angen iddo fod yn hyblyg, yn arloesol ac yn gydweithredol, gyda ffocws clir ar gyflawni
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae yna dri phrif faes y bydd deiliad y swydd yn ymwneud â nhw:
• Adrodd corfforaethol – bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ynghlwm wrth
lunio diweddariadau ar berfformiad ar gyfer aelodau'r Bwrdd, cyfarwyddwyr gweithredol, uwch-reolwyr, staff y Bwrdd Iechyd a'r cyhoedd.
• Gwella perfformiad – un rhaglen waith allweddol y bydd yr ymgeisydd
llwyddiannus yn ymwneud â hi fydd Gwella Gyda’n Gilydd, sy'n
rhaglen newid diwylliant â ffocws ar ansawdd a gwelliant.
• Datblygiadau o ran data a'r dangosfwrdd – mae sicrhau bod staff yn gallu
cyrchu'r data iawn ar yr adeg iawn yn alluogwr allweddol ar gyfer adrodd
corfforaethol a gwella perfformiad, fel ei gilydd
Bydd angen i ddeiliad y swydd weithio gyda lefel uchel o ymreolaeth a datblygu perthnasoedd tra chydweithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn cynnwys arweinwyr gwasanaethau a chyfarwyddwyr gweithredol y Bwrdd Iechyd, a Llywodraeth Cymru.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
- Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Diben y swydd hon yw cefnogi datblygiad, gweithrediad a gwelliant parhaus yn achos fframwaith rheoli perfformiad corfforaethol cadarn ar gyfer y Bwrdd Iechyd, fframwaith sy'n gyson â Chyfeiriad Strategol a Chynllun Gweithredol y Bwrdd Iechyd, a mynd ati i hyrwyddo diwylliant o ragoriaeth. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth o ran datblygiad a gweithrediad systemau adrodd effeithiol ar bob lefel o'r sefydliad, a hynny mewn ffyrdd sy'n cefnogi atebolrwydd clir ac yn annog proses o gyflawni'r holl dargedau allweddol, pa un a ydynt wedi'u gosod yn allanol neu'n fewnol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd, ynghyd â gwybodaeth arbenigol ychwanegol a gafwyd trwy ddiploma ôlraddedig neu brofiad Rheoli Perfformiad cyfatebo
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol mewn rôl rheoli perfformiad/ gwybodaeth
- Gwybodaeth am fframweithiau a phrosesau rheoli perfformiad mewn sefydliad mawr cymhleth
- Profiad o ddylanwadu ar bobl nad oeddent dan eich rheolaeth linell uniongyrchol i fynd ati i weithredu.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Profiad o ddatblygu systemau rheoli perfformiad 2
- Profiad o ddatblygu dangosyddion perfformiad newydd
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau TG a dadansoddi uwch, ynghyd â lefel uchel o brofiad o ddefnyddio Microsoft Office; creu, fformatio a thrin cronfeydd data a thaenlenni
- Gwybodaeth arbenigol am fframweithiau rheoli perfformiad, prosesau a chyfarpar gwella
- Sgiliau dadansoddi datblygedig iawn i ddadansoddi ystod o faterion a chanlyniadau cymhleth yn ymwneud â pherfformiad y mae angen eu dehongli a'u cymharu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gan gynnwys y gallu i gyflwyno gwybodaeth am berfformiad ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Y gallu i ddylanwadu ar reolwyr a chlinigwyr a thrafod â nhw mewn perthynas â pherfformiad gwael, a hynny mewn ffordd adeiladol – bod yn ffrind beirniadol
- Y gallu i weithio'n annibynnol heb fawr o gyfarwyddyd a goruchwyliaeth, yn unol â fframwaith/ffiniau penodol
- Yn gallu wynebu gofynion amrywiol – sy'n aml yn gofyn am ganolbwyntio'n fanwl ac ymdrech ddwys i gyflawni amcanion lluosog/ blaenoriaethau sy'n gwrthdaro
Meini prawf dymunol
- Datblygu dangosfwrdd/Power BI
- Codio SQL
- Gwybodaeth am agenda perfformiad y GIG
- Tystiolaeth o ymrwymiad i'ch datblygu eich hun
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mandi Chesterman
- Teitl y swydd
- Senior Performance Management Analyst
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Gellir cysylltu â mi hefyd trwy Microsoft Teams.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector