Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Band 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Oriau llawn amser, rhan amser a rhannu swydd ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-PST022-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili,
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn (pro rata if part time)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd Fferyllol Uwch

Band 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Dechnegydd Fferylliaeth Cofrestredig (GPhC) cymwys ymuno â'n tîm Fferylliaeth cyfeillgar yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Rydym yn ymdrechu i ddarparu cymorth o safon uchel i'n cleifion ac yn chwilio am Dechnegydd Fferylliaeth llawn cymhelliant, hyblyg a blaengar. Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa mewn amgylchedd arloesol a chefnogol

Mae'r rôl heriol ac amrywiol hon yn ddelfrydol ar gyfer Technegydd Fferylliaeth profiadol sy'n dymuno parhau â'i gyfraniad clinigol i ofal cleifion ar yr un pryd â datblygu integreiddiad rhwng gofal eilaidd a gofal sylfaenol.

Er na fydd yn gweithio ar draws y ddau sector, bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn modd hyblyg i gefnogi gwasanaethau rheoli meddyginiaethau ar wardiau, i ddarparu cymorth fferyllfa, ac i ddatblygu cyswllt integredig rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd – gan gyfeirio cleifion at y gwasanaethau gofynnol ym maes gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol iddynt gael cymorth ar ôl eu rhyddhau.

Mae'r tîm fferyllol arloesol a chyfeillgar wedi hen sefydlu yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn uchelgeisiol a llawn cymhelliant, yn sicrhau bod ein gwaith yn canolbwyntio ar les gorau ein cleifion, ac yn ymdrechu'n barhaus i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Ar hyn o bryd, mae'r Adran Fferylliaeth yn cyflogi tua 80 o aelodau staff.

Bydd gofyn i ymgeiswyr gymryd rhan yn y rota penwythnosau a gwyliau banc.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ymgymryd â'r gwaith o ddydd i ddydd o oruchwylio a chefnogi staff rheolaidd y fferyllfa sy'n gweithio yn y maes hwn, Swyddogion Technegol Cynorthwyol sy'n dosbarthu, a Thechnegwyr Fferyllfa Cyn-gofrestru. Cynnal y gwiriad terfynol o gywirdeb a rhyddhau presgripsiynau a ddosberthir gan staff eraill y fferyllfa yn rôl Technegydd Gwirio 
Cywirdeb Fferyllfa (ACPT). Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu'r broses o wirio'r llwyth gwaith er mwyn sicrhau bod eitemau brys yn cael eu prosesu mewn modd priodol.

Ymgymryd â dyletswyddau dosbarthu, gan gynnwys dilysu a dosbarthu meddyginiaethau ar gyfer cleifion mewnol, cleifion dydd a chleifion allanol sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, a hynny'n unol â'r Trefniadau Gweithredu Safonol ar gyfer Dosbarthu a safonau labelu. Awgrymu newidiadau i'r rhain pan nodir bod hynny'n ofynnol, a rhoi gwelliannau cytunedig ar waith, gan raeadru i'r aelodau priodol o'r tîm.

Darparu gwasanaeth rheoli meddyginiaethau (sy'n cynnwys cysoni meddyginiaethau) trwy goladu ffynonellau gwybodaeth. Gall hyn gynnwys chwilio trwy nodiadau meddygol am lythyrau meddygon teulu, ffurflenni presgripsiynau amlroddadwy, presgripsiynau rhyddhau diweddar, a chymryd cofnodion hanes cyffuriau a chofnodion gweinyddu meddyginiaethau o gartrefi nyrsio. Gall hefyd olygu cysylltu â meddygfeydd teulu a fferyllwyr cymunedol, cyrchu'r porth clinigol, a/neu gael a gwirio meddyginiaethau'r cleifion eu hunain. Gwneud cyfrifiadau syml a monitro canlyniadau profion clinigol lle bo hynny'n briodol

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 5 ac yn ddelfrydol rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl hon fod wedi cyflawni'r achrediadau angenrheidiol, sef MMPT ac ACPT. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion ar gyfer y rôl Band 5 i ymgeisio, ac os byddant yn llwyddiannus, bydd angen iddynt ennill y cymhwyster o fewn 2 flynedd, a byddant yn cael eu penodi o dan reolau Atodiad 21. Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 5, a'r ail flwyddyn yn 75%. Ar ôl llwyddo yn yr achrediad, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar lefel Band 5 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 5. Gallai methu â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 17/07/2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i lefel gradd neu lefel gyfatebol, e.e. NVQ3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllol a Thystysgrif BTEC mewn Gwyddor Fferyllol
  • Rheoli Meddyginiaethau
  • Achrediad Technegydd Gwirio (ACPT) neu brofiad cyfatebol o waith ym maes gofal sylfaenol mewn practisau meddygon teulu
  • Gwybodaeth ymarferol am feddyginiaethau cyfredol
  • Ymarfer rheoli a materion proffesiynol
  • Achrediad (MMPT) neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster/profiad rheoli
  • Dyfarniad Asesydd A1

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth ym maes gofal sylfaenol neu eilaidd
  • Profiad helaeth o hyfforddi staff ar raddau gwahanol
  • Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o arwain gwasanaeth
  • Profiad mewn perthynas a Gwasanaethau Technegol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid i'ch cyflwyniad personol fodloni safonau cytunedig
  • Rhaid bod yn broffesiynol bob amser
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, sy'n cynnwys gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) ac yn cydymffurfio a safonau Fferyllol y GPhC

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sally Davey
Teitl y swydd
Chief Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227469
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg