Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Llawn amser ond medrir ystyried oriau rhan-amser / rhannu swydd)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS187-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
05/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol

Gradd 3

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol Fferylliaeth yn nosbarthfa ein Hadran Fferylliaeth gyfeillgar a blaengar yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Byddwch yn aelod hynod werthfawr o dîm y ddosbarthfa, yn cyflenwi meddyginiaethau i’r ysbyty, gan gynnwys cleifion allanol, ac yn cefnogi’r gwaith o gydlynu prosesau rhyddhau cleifion ar lefel y wardiau i wella llif y cleifion.

Byddwch yn gweithio'n arbennig o dda mewn tîm, yn dangos proffesiynoldeb bob amser, ac yn ymroddedig i'ch datblygiad chi a datblygiad y gwasanaethau a ddarparwn i gleifion.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu rôl yr Uwch-swyddogion Technegol Cynorthwyol Fferylliaeth yn yr Adran Fferylliaeth, ac rydym yn cynyddu eu cysylltiad â'r broses o gyflenwi gwasanaethau.

Mae'r Tîm Fferylliaeth yn dîm blaengar, ac mae'n ymdrechu'n barhaus i wella'r modd y darperir gofal fferyllol sy'n canolbwyntio ar y claf ac i wneud y defnydd gorau o feddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm o Uwch-swyddogion Technegol, Technegwyr Fferyllol a Fferyllwyr i ddarparu ystod eang o Wasanaethau Fferyllol yn yr ysbyty.  Byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar 5 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch. Mae meddu ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllol neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol; fodd bynnag, nid yw'n hanfodol gan y darperir cymorth a goruchwyliaeth lawn i gyflawni a chwblhau'r cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllol.

Cyflawni amrywiaeth o dasgau i gefnogi'r timau fferylliaeth yn y Bwrdd Iechyd. Gall y rôl olygu gweithio yn y meysydd a ganlyn: Dosbarthu, Caffael, y Ddosbarthfa, Gwasanaethau ar y Wardiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar rota penwythnosau a gwyliau Banc.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 05.08.2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda mewn addysg uwchradd, sydd i gynnwys 5 TGAU ar lefel C, neu gyfwerth
  • Cymhwyster lefel 3 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • 5 TGAU ar lefel C neu uwch, sydd i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Cymhwyster NVQ 2 mewn Fferylliaeth – yn y gymuned neu mewn ysbyty
  • Gwybodaeth am enwau cyffuriau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ysbyty neu fferyllfa manwerthu yn y gymuned
  • Profiad o ofal cwsmeriaid
  • Profiad o gynnal a chadw stoc
  • Y gallu i weithio mewn tim

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sally Davey
Teitl y swydd
Chief Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227469
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Anja Roberts - Uwch-dechnegydd Fferylliaeth Gwasanaethau'r Ddosbarthfa

01267 227466

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg