Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seicoleg
Gradd
NHS AfC: Band 8b
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-PST047-1024-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cwm Seren
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£63,150 - £73,379 Pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/12/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
18/12/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Prif Ymarferydd Seicoleg

NHS AfC: Band 8b

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Prif Ymarferydd Seicoleg i weithio yn ein Harbenigeddau Iechyd Meddwl Fforensig a Gofal Dwys Seiciatrig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau seicolegol i oedolion sy’n gleifion mewnol yn Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Dwys Seiciatrig Cwm Seren yng Nghaerfyrddin, a darparu cefnogaeth i dimau amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â’r lleoliad hwn. Bydd hyn yn cynnwys y Tîm Iechyd Meddwl Fforensig cymunedol.

Rydym yn chwilio am Seicolegydd egnïol ac ysbrydoledig sy’n gallu cyflawni asesiadau, fformiwleiddiadau ac ymyriadau o safon uchel, a hefyd yn gallu rhannu dealltwriaeth a sgiliau seicolegol â chydweithwyr. Bydd yn ymuno ag Arbenigedd Seicoleg croesawgar ac ymroddedig sydd ag ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol ac ymdeimlad cadarn o hunaniaeth broffesiynol. Rydym yn cael ein hysgogi gan werthoedd parch a thosturi wrth i ni weithio i geisio cynyddu mynediad at gymorth o safon uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i unigolion a’u gofalwyr. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif amcan y swydd hon yw sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus yn cael eu hasesu, eu cefnogi a’u trin yn briodol, a’u bod yn cael cymorth i adennill eu lle yn y gymuned leol a chyflawni eu potensial yn llawn fel aelodau o’r gymuned honno.

Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o ddarparu asesiad ac ymyriad seicolegol arbenigol i gleientiaid sy’n cael eu derbyn i Uned Diogelwch Isel ac Uned Gofal Dwys Seiciatrig Cwm Seren yng Nghaerfyrddin, gan ddefnyddio dulliau therapiwtig i weithio gydag unigolion, grwpiau, teuluoedd a phobl eraill arwyddocaol er mwyn diwallu’r holl anghenion amrywiol sy’n cael eu cyfeirio atom. 

Rhoddir pwyslais hefyd ar helpu i ddatblygu’r gwasanaeth, cynllunio gofal a thriniaeth, a darparu gwasanaeth ymgynghorol, hyfforddiant a goruchwyliaeth i dimau amlddisgyblaethol. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod pob aelod o’r tîm sy’n darparu triniaeth yn cael mynediad at fframwaith seiliedig ar seicoleg er mwyn deall a gofalu am gleientiaid y Gwasanaeth. Bydd hefyd yn gweithredu fel Adnodd Arbenigol ar gyfer gwerthuso a rheoli risg seicolegol glinigol-fforensig. Bydd yn darparu cyngor arbenigol i Wasanaethau Seicoleg eraill, timau cleifion mewnol a chymunedol, gan gynnwys cysylltu a darparu cefnogaeth i’r Tîm Iechyd Meddwl Fforensig cymunedol, a thimau amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol eraill.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddatblygu gwasanaeth ymatebol a hygyrch o safon uchel, a bydd yn chwarae rhan arweiniol yng ngweithgareddau archwilio ac ymchwil y Gwasanaeth.

Yn y rôl hon bydd lle i ddatblygu dull y Gwasanaeth o ddarparu gofal sy’n ystyriol o drawma er mwyn diwallu anghenion seicolegol a chefnogi ymgysylltu ac adeiladu gwytnwch, sy’n bwysig ar gyfer adferiad.

Er bod y swydd yn canolbwyntio ar gleifion mewnol, mae cysylltiadau gwaith da â gwasanaethau cymunedol ac asiantaethau eraill sy’n ymwneud â rheoli a gofalu am gleifion. Mae rhwydweithiau proffesiynol rhagorol a chymorth ar gyfer DPP, gan gynnwys cysylltiadau penodol â Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 18/12/24

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Hyfforddiant ôl-raddedig ar lefel doethuriaeth mewn Seicoleg Gymhwysol (neu gymhwyster cyfwerth ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu hyfforddi cyn 1996) fel y mae wedi’i achredu gan y BPS, gan gynnwys seicometreg glinigol ac asesu gwybyddol/niwroseicolegol. Dylai’r hyfforddiant hefyd gynnwys modelau seicopatholeg a dau neu ragor o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg datblygiad trwy gydol oes.
  • Wedi cofrestru gyda’r HCPC fel Ymarferydd Seicoleg.
  • Gwybodaeth am yr ystod lawn o ymyriadau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth o ddwyster isel i uchel, gan gynnwys canllawiau ar gyfer eu defnyddio’n briodol.
  • Gwybodaeth ar lefel doethuriaeth am ddylunio ymchwil a methodoleg, gan gynnwys dadansoddi data cymhleth ag amryw o elfennau fel sy’n cael ei wneud ym meysydd Seicoleg Gymhwysol.
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ôl-ddoethurol mewn un neu ragor o feysydd arbenigol eraill mewn ymarfer seicolegol.
  • Gwybodaeth a/neu gymwysterau yn gysylltiedig â gwaith ym maes Iechyd Meddwl Fforensig ac Iechyd Meddwl Acíwt.
  • Gwybodaeth am theori ac ymarfer ymyriadau seicolegol arbenigol sy’n berthnasol i grwpiau cleientiaid y Gwasanaeth.
  • Gwybodaeth ac uwch-sgiliau mewn methodoleg asesu risg a rheoli risg.
  • Gwybodaeth a sgiliau mewn Therapïau sy’n seiliedig ar Adnoddau (e.e. ymyriadau ysgogiadol a chadarnhaol sy'n canolbwyntio ar atebion).
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth mewn perthynas â'r grŵp cleientiaid ac iechyd meddwl.
  • Hyfforddiant arbenigol, achrededig mewn dulliau therapiwtig e.e CBT, DBT, MBT

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid, trwy’r rhychwant oes cyfan, ac sy’n arddangos yr ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol mewn lleoliadau gofal amrywiol, gan gynnwys lleoliadau cleifion allanol, cymunedol, gofal sylfaenol, cleifion mewnol a gofal preswyl, a chynnal graddau uchel o broffesiynoldeb wrth ddelio gyda phroblemau sy’n dreth ar emosiynau ac sy’n peri gofid, cam-drin geiriol a bygythiad o gam-drin corfforol.
  • Profiad o dderbyn cyfrifoldeb clinigol llawn am ofal a thriniaeth seicolegol cleientiaid yng nghyd-destun cynllun gofal amlddisgyblaethol.
  • Profiad sylweddol o gynnal a dehongli asesiadau gwybyddol/niwroseicolegol a seicometreg glinigol.
  • Profiad sylweddol o ddarparu addysgu, hyfforddiant a goruchwyliaeth glinigol i seicolegwyr cymwysedig a staff eraill sy’n gweithio ym maes Iechyd Meddwl.
  • Profiad sylweddol sy’n berthnasol i faes Arbenigedd y Gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gynrychioli/arwain gwasanaethau Seicoleg yng nghyd-destun gofal amlddisgyblaethol.
  • Profiad o asesu a thrin cleientiaid ledled yr ystod lawn o leoliadau gofal.
  • Profiad o gymhwyso Seicoleg mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol.
  • Profiad o waith amlasiantaethol ac o weithio mewn partneriaeth.
  • Profiad o ddarparu gwasanaeth ymgynghorol i dimau cymunedol a chleifion mewnol, gan gynnwys goruchwyliaeth glinigol i dimau.
  • Profiad penodol o asesu a thrin cleientiaid mewn gwasanaethau i gleifion mewnol.

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr. Hugh Dafforn
Teitl y swydd
Consultant Clinical Psychologist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267239880
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Cyswllt ar gael ar gyfer galwadau o 21 Hydref 2024 ymlaen. Gellir gadael negeseuon cyn y dyddiad hwn trwy alwad ffôn neu ebost.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg