Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Radiograffydd
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 01/04/2026. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn chwilio am radiograffydd brwdfrydig i ymuno â'r tîm Cyffredinol a CT. Mae gennym adran CT a MRI brysur sy'n gweithredu dau sganiwr CT ac un sganiwr MRI. Cafodd un o'r sganwyr ei osod y llynedd (Canon Aquilion Prism) diolch i gyllid gan Lywodraeth
Cymru. Mae'r brif ystafell CT yn fodern ac yn groesawgar i gleifion ac yn cynnwys ardal ar gyfer gosod canwlâu ac ardal aros. Mae'r adran CT yn cynnal yr holl archwiliadau, gan gynnwys rhestr Angiograffeg Coronaidd CT wythnosol. Mae gan yr adran MRI restr anesthetig cyffredinol pediatrig
wythnosol.
Bydd ymgeiswyr yn meddu ar BSc/DCR(R) mewn Radiograffeg Ddiagnostig, byddant wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol (CT). Bydd gofyn i chi oruchwylio myfyrwyrradiograffwyr a chynorthwyo â hyfforddi staff radiograffeg cylchdro.
Bydd trefniadau gweithio'n hyblyg/rhannu swydd hefyd yn cael eu hystyried. Mae cymryd rhan yn y rota galw Cyffredinol yn orfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur yn Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru. Mae gan yr adran gyfarpar da, gan gynnwys sganiwr CT GE 750 HD a Canon Aquilion Prism a osodwyd yn ddiweddar ym mis Ionawr 22.
Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Avanto 1.5T. Mae gan yr adran gyffredinol dwy ystafell Samsung DR, ystafell Siemens CR a detholiad o gyfarpar Philips II, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn rhai digidol Samsung. Mae ystafell fflworosgopeg Siemens Artis Zee yn hwyluso gweithdrefnau ERCP, astudiaethau bariwm, systemau rheoli'r galon a gweithdrefnau HSG. Mae yna adran uwchsain fawr a gwasanaeth radioleg ymyriadol prysur.
Anogir trefniadau ymestyn rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a
hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, gwaith adrodd Radiograffwyr ffilm blaen, CT, MRI a Meddygaeth Niwclear, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain, ledled y Bwrdd Iechyd.
Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT. Mae'r gwaith MRI ar alwad yn digwydd gartref ar hyn o bryd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn
croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/12/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ol-raddedig
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
- Cymhwyster ol-raddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-x gwahanol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Tystiolaeth o ddatblygu rol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Davey
- Teitl y swydd
- Deputy Site Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector