Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed
Gradd
Gradd 6
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 30/09/2025)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Dyma swydd llawn amser, er hyn ystyriwn rhan amser
Cyfeirnod y swydd
100-NMR265-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Llewellyn
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Iechyd Meddwl Sylfaenol a Mewngymorth Ysgolion, S-CAMHS

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 30/09/2025

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

A ydych yn teimlo'n angerddol ynghylch cefnogi plant a phobl ifanc i reoli'r heriau emosiynol ac iechyd meddwl y maent yn eu hwynebu yn y byd sydd ohoni? A ydych erioed wedi dymuno y gallech wneud gwahaniaeth yn gynnar ym mywyd plentyn neu berson ifanc i'w alluogi i ffynnu a thyfu? 

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed (S-CAMHS) i ymuno â gwasanaeth iechyd meddwl amlddisgyblaethol dynamig, sy'n tyfu, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Sir Gaerfyrddin), a hynny 
mewn rôl cyfnod penodol am 12 mis.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol. Mae hyn yn ymgorffori dyletswyddau ym meysydd Iechyd Meddwl Sylfaenol a Mewngymorth Ysgolion. 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr, ac yn annibynnol, i gynnal asesiadau iechyd meddwl a darparu ymyriadau i blant a phobl ifanc yn rhan o Fesurau Iechyd Meddwl 2010 Llywodraeth Cymru. 

Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth uniongyrchol, yn ogystal â chysylltu plant a phobl ifanc â ffynonellau cymorth eraill a gweithgareddau buddiol yn y gymuned er mwyn bod o fudd i'w hiechyd emosiynol a'u hiechyd meddwl.

Bydd deiliad y swydd yn cynnal cysylltiadau uniongyrchol ag ysgolion i gynnal ymgyngoriadau a hyfforddiant a fydd yn sicrhau y nodir cymorth yn gynnar. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio mewn modd hyblyg yn rhan o dîm i ofalu bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu, gwasanaeth sy'n cynnwys gweithio ar benwythnosau, lle bo gofyn, i sicrhau hygyrchedd a pharhad y gwasanaeth a ddarperir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymarferwyr cymwys llawn cymhelliant sydd â phrofiad perthnasol ddatblygu eu profiad a'u sgiliau clinigol ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed. Nid yw profiad ym maes y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed yn ofynnol, a byddem yn annog diddordeb gan amrywiaeth o ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol.

Bydd yna gyfleoedd rhagorol ar gael ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, a bydd deiliad y swydd yn destun goruchwyliaeth reoli a chlinigol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 22/07/24

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster proffesiynol (un neu ragor o'r canlynol): Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), Nyrs Gofrestredig (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), Nyrs Gofrestredig ar gyfer Anableddau Dysgu (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Gradd neu Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal neu Gyngor Gofal Cymru, Gradd neu Ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynol Iechyd a Gofal),Cymwysterau lefel ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol, Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Postgraduate level qualifications or equivalent experience.
  • Evidence of continuing professional development
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ychwanegol mewn cymhwyster therapiwtig Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)/Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)/Therapi Systemig
  • Gwybodaeth fanwl am y sector gofal sylfaenol a’i systemau, a dealltwriaeth sicr ohono

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol ym maes Gofal Sylfaenol neu S-CAMHS Cymunedol/lleoliad Iechyd Meddwl i Oedolion
  • Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Profiad o weithio mewn tîm ac o waith rhyngasiantaethol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio ym maes S-CAMHS neu'r gwasanaethau plant
  • Cymhwyster addysgu neu brofiad o addysgu
  • Cymhwyster neu brofiad o ran gwaith grŵp

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ashley Lewis-Walters
Teitl y swydd
Primary Mental Health Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Fel arall cysylltwch ag

Suzan Attwood

Arweinydd y Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol a Mewngymorth Ysgolion

Sir Gaerfyrddin

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg