Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Theatr
GIG AfC: Band 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Theatrau brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n timau sydd wedi'u lleoli ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae gennym swyddi gwag ar gael yn y meysydd canlynol:
- Ymarferydd Theatr - Adferiad - Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin. (1 x swydd 37.5 awr yr wythnos, 2 x swydd 30 awr yr wythnos)
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am Nyrsys/Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau sy'n angerddol ac yn llawn cymhelliant ynghylch darparu'r gofal gorau posibl, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn barod i weithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ymrwymedig a medrus.
Theatrau – Mae yna sawl safle theatr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n cwmpasu ystod o arbenigeddau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lawdriniaethau brys, obstetreg, llawfeddygaeth gyffredinol, trawma ac orthopaedeg. Mae pob un o'r timau theatr unigol yn cynnwys staff sgrybs, staff cylchredeg, ymarferwyr yr adran llawdriniaethau, staff adfer a gweithwyr cymorth gofal iechyd, ac mae amrywiaeth o gyfleoedd yn y prif theatrau. Bydd y patrwm shifftiau yn dibynnu ar y maes yr ydych yn gweithio ynddo a gellir trafod hynny yn y cyfweliad.
Efallai y bydd disgwyl teithio i safleoedd eraill pan fo angen.
Nodwch yn eich cais pa faes y mae gennych ddiddordeb mewn gweithio ynddo.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
https://fb.watch/hzQjE8HzTN/
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HCPC)
- Cymhwyster Nyrs Gyffredinol Gofrestredig (RGN) neu Ymarferydd Adran Lawdriniaethau (ODP)
- Ymrwymiad i ymgymryd a chwrs astudio priodol
- Yn meddu ar wybodaeth am yr holl arbenigeddau llawfeddygol yn yr adran lawdriniaethau, ynghyd a dealltwriaeth ohonynt.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- Diploma mewn ymarfer amdriniaethol theatrau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o brofiad o ddefnyddio cyfarpar a deunyddiau
Meini prawf dymunol
- Profiad ol-gofrestru
- Profiad perthnasol o bob arbenigedd – cyffredinol/orthopedig/gynaecoleg/wroleg/trawma
- Profiad o oruchwylio/addysgu myfyrwyr, staff cymorth ac eraill
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alex Walsby
- Teitl y swydd
- Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhian DeSouza - [email protected]
Cynorthwyydd Personol i'r Pennaeth Nyrsio
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Resourcing Team
Hafan Derwen
Carmarthen
SA31 3BB
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector