Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Trallwyso
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 6 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 22/10/2025 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 29 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR101-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Trallwyso
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 22/10/2025 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer Ymarferydd Trallwyso Gwaed 6 mis rhan-amser i hyrwyddo a gwella arfer trallwyso diogel a phriodol, a hynny trwy hyfforddiant ac addysg sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol/lleol.
Disgwylir i chi fod yn nyrs gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu'n wyddonydd biofeddygol cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, a'ch bod yn meddu ar wybodaeth am Drallwyso Gwaed/Hematoleg.
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i Nyrs Gofrestredig neu Wyddonydd Biofeddygol brwdfrydig a llawn cymhelliant, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, hyrwyddo rhagoriaeth mewn ymarfer trallwyso i bob grŵp staff ac ym mhob maes clinigol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli'n bennaf yn safle Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn rheoli llwyth gwaith yr Ymarferwyr Trallwyso yno, ond bydd disgwyl iddo hefyd gysylltu â'r Ymarferwyr Trallwyso ar y safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd ac ar draws Cymru, a chyflenwi ar eu cyfer, yn ôl yr angen.
Bydd yr Ymarferydd Trallwyso yn gweithio yn Nhîm Trallwyso amlddisgyblaethol ysbytai'r Bwrdd Iechyd, tîm sy'n cynnwys Arweinydd Clinigol y Gwasanaeth Trallwyso Gwaed, Rheolwyr y Gwasanaeth Trallwyso Gwaed, Ymarferwyr Trallwyso ac Arbenigwyr Trallwyso eraill. Bydd deiliad y swydd yn rheoli ei lwyth gwaith ei hun a bydd disgwyl iddo fynychu cyfarfodydd i gynrychioli Hywel Dda y tu mewn a'r tu allan i'r Bwrdd
Iechyd, er enghraifft yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru. Mae'r rhwydwaith Trallwyso Gwaed yn Hywel Dda a Chymru yn dîm clòs sy'n cydweithio'n dda i hyrwyddo trallwysiadau diogel a'r arfer trallwyso gorau.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am baratoi pecynnau hyfforddi ar gyfer pob agwedd ar y broses drallwyso, ynghyd â chydgysylltu a chyflenwi addysg ac asesiadau cymhwysedd cysylltiedig â thrallwyso ar gyfer yr holl staff sy'n rhan o'r broses drallwyso. Bydd yn ymgymryd â'r gwaith o fonitro digwyddiadau olrhain a thrallwyso, gan gynnwys y gwaith adrodd gorfodol i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
(MHRA), a bydd yn cynnal archwiliadau clinigol, a hynny'n lleol ac yn genedlaethol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/04/2025.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwyddonydd Biofeddygol cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Nyrs a chofrestriad rhan 1 gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gwybodaeth arbenigol am Drallwyso Gwaed/Hematoleg neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Y gallu i ddeall a dehongli gwaith ymchwil i sicrhau ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Dealltwriaeth glir o'r cysyniad o lywodraethu clinigol, effeithiolrwydd ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu neu asesu neu brofiad perthnasol
- Yn gallu sgwrsio'n wybodus am faterion yn ymwneud a thrallwyso gwaed
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fod yn Wyddonydd Biofeddygol neu'n Nyrs
- Gwybodaeth arbenigol am Drallwyso Gwaed/Hematoleg hyd at lefel ol-raddedig
Meini prawf dymunol
- Profiad o archwilio, gwaith ymchwil a gwella ansawdd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Thomas Phillips
- Teitl y swydd
- Blood Transfusion Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773195
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anke Meess
01267227461
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector