Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gymunedol
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i ddwy Nyrs Gymunedol Band 5 ymuno â’n Timau Nyrsio Cymunedol yn ardal Tregaron, Ceredigion.
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i gefnogi'r gwaith o reoli llwyth achosion dirprwyedig yn y Tîm Nyrsio Cymunedol sy'n darparu rheolaeth gofal cymhleth o ansawdd uchel i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, a hynny dan gyfarwyddyd a gyda chymorth Arweinydd profiadol y Tîm Nyrsys Ardal.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu i gleifion a'u teuluoedd/gofalwyr yn eu cartrefi neu mewn clinig. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â staff, cleifion/gofalwyr ac asiantaethau/a sefydliadau eraill, yn ôl y gofyn, i sicrhau bod dyletswyddau'n cael eu dirprwyo a risgiau'n cael eu rheoli mewn modd priodol. Ar yr un pryd, bydd yn ofynnol sicrhau bod yna gyfathrebu effeithiol yn digwydd rhwng y rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r pecyn gofal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gan Dimau Nyrsio Cymunedol Ceredigion gymysgedd sgiliau nyrsio eang, ac maent yn ymfalchïo mewn cefnogi datblygiad proffesiynol a gwella safonau uchel o ymarfer cymunedol yn unol â'r polisi iechyd cyfredol.
Mae'r rhain yn swyddi parhaol a fydd yn cael eu gweithio dros gyfnod o saith niwrnod, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc 8yb-8yh . Mae cyfleoedd llawn-amser a rhan-amser ar gael.
Bydd angen i ddeiliad y swydd allu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 07/08/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
https://youtu.be/_EhKmb6gj2I |
https://youtu.be/9m7VI5959Sw |
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Get instant access to our financial wellbeing benefit – Wagestream. Wagestream is a tool for everyday life that lets you get paid your way by letting you track your wages in real-time, stream up to 50% of the money you’ve already earned, learn easy tips to manage your money better and save your wages straight from your salary.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Lefel 1 (Oedolion)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus a hyfforddiant statudol a gorfodol
- Ymwybyddiaeth o bolisiau, gweithdrefnau a chanllawiau'r Bwrdd Iechyd
- Y gallu i gysylltu theori ag ymarfer
- Dealltwriaeth o waith gofal iechyd sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Profiad ol-gofrestru, mewn gwasanaethau aciwt
- Addysgu ac asesu
- Dealltwriaeth o lywodraethu clinigol, iechyd a diogelwch ac ymwybyddiaeth o reoli risgiau
- Profiad cymunedol
- Parodrwydd i ymgymryd a hyfforddiant pellach, yn ol yr angen
- Profiad o addysg ol-gofrestru - Lefel Diploma/ Gradd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018)
- Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
Meini prawf dymunol
- Profiad cymunedol perthnasol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am y gymuned
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tracey Roberts
- Teitl y swydd
- District Nurse Team Leads
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector