Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymweliadau Iechyd
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR287-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Abergwaun
Tref
Abergwaun
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flywyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
13/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Arweinydd y Tîm Ymwelwyr Iechyd

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Arweinydd Tîm Band 7 llawn-amser i reoli ac arwain y  tîm ymwelwyr iechyd yng Ngogledd Sir Benfro, ar draws Crymych/Casnewydd, Tyddewi, Arberth ac  Abergwaun.

Rhaid bod gan ymgeiswyr y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn nyrs/fydwraig gofrestredig a meddu ar gymhwyster SCPHN – ymwelydd iechyd. Mae yna ofyniad sylfaenol am agwedd hynod hyblyg a brwdfrydig tuag at y rôl hon sy'n heriol, yn gofyn llawer ac yn werth chweil.

Mae'n swydd barhaol 37.5 awr yr wythnos ym Meddygfa Abergwaun, Sir Benfro.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfnod sefydlu a thiwtoriaeth ynghyd â chymorth a  goruchwyliaeth barhaus.

Cynhelir y cyfweliadau ar 13/8/24

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu arweinyddiaeth strategol a phroffesiynol i Ymwelwyr Iechyd a datblygu'r gwasanaeth yn unol â'r amcanion cenedlaethol, gan sicrhau bod gofal seiliedig ar dystiolaeth yn cael ei ddarparu, a hynny wrth reoli'r gwasanaeth o ddydd i ddydd. Darparu gwasanaeth Ymwelydd Iechyd costeffeithiol, o safon uchel, diogel, ac unigol ei ogwydd i gleifion yn y gymuned trwy asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal.

Cydweithio â Chyd-weithwyr Iechyd y Cyhoedd ac Awdurdodau Lleol. Cyfrannu at y gwaith o reoli cyllidebau Ymwelwyr Iechyd a'r lleoliad, a monitro ac adrodd ar Fesurau Perfformiad Allweddol a chyflawniadau Ymwelwyr Iechyd y Tîm Ymwelwyr Iechyd.

Sicrhau bod gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Arbenigol o ansawdd uchel yn cael ei ddatblygu a'i ddarparu'n barhaus ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn unol â Rhaglen Plant Iach Cymru. Sicrhau bod Asesiadau Risg ar waith, gan ofalu bod pob perygl a digwyddiad yn cael ei gofnodi ar Datix, yn unol â chanllawiau, polisïau a gweithdrefnau'r Bwrdd Iechyd.

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Ymwelydd Iechyd Cymwysedig
  • Profiad perthnasol o fod yn ymwelydd iechyd hyd at lefel diploma ôl-raddedig
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd gyfredol
  • Gwybodaeth am yr amgylchedd gofal iechyd newidiol mewn perthynas â darparu gwasanaeth ymwelwyr iechyd
  • Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant
  • Gwybodaeth am iechyd a datblygiad arferol plant a phobl ifanc
  • Gwybodaeth am egwyddorion ymarfer nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol
  • Gwybodaeth am anghenion iechyd a datblygiad cyffredin plant
  • Dealltwriaeth o nodau Ymwelwyr Iechyd Rhaglen Plant Iach Cymru
  • Cymhelliant o ran datblygu staff sy'n Ymwelwyr Iechyd ac o ran eich datblygu eich hun a'r gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster lefel Diploma/ Gradd mewn rheoli
  • Cymhwyster mewn rheolaeth
  • Yn barod i weithio tuag at Gyflawniad Academaidd Uwch
  • Gwybodaeth am broffilio iechyd
  • Gwybodaeth am gyfraniad yr Ymwelydd Iechyd i'r Agenda Iechyd Cyhoeddus
  • Gwybodaeth am sgiliau ymchwil ac archwilio

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gweithio mewn tîm a rheoli cymysgedd sgililau Profiad o waith amddiffyn plant
  • Profiad o fod yn gyfrifol am lwyth achosion
  • Profiad rheoli a datblygu gwasanaethau
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn tîm amlasiantaeth
  • Profiad o Gallu cyfrifiadurol
  • Profiad o hyfforddi a datblygu cymunedo
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad blaenorol o reoli tîm

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paula George
Teitl y swydd
Senior Nurse Quality Assurance
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07788 654956
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg