Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwyddorau'r Gwaed
Gradd
Gradd 6/Atodiad 21
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cynnwys y tu allan i oriau gwaith pan fydd yn gymwys)
Cyfeirnod y swydd
100-HS016-0624-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol

Gradd 6/Atodiad 21

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Gwahoddir ceisiadau gan Wyddonwyr Biofeddygol brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n gofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), i weithio yn Adran Gwyddorau Gwaed achrededig Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd. Mae yna un swydd parhaol lawn-amser (37.5 awr yr wythnos) ar gael yn yr adran Biochemeg. Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan mewn hyfforddiant amlddisgyblaethol ynghyd â phroses datblygu cyfuniad sgiliau ym maes Gwyddorau'r Gwaed.

Mae'r adran yn gweithredu patrwm sifftiau contractiol sy'n cefnogi Gwasanaethau Rownd y Cloc, a bydd gweithio y tu allan i oriau ar y rota Biochemeg yn rhan o'r rôl hon.

Beth am ystyried gweithio mewn ardal o harddwch eithriadol wedi'i hamgylchynu gan Barc Cenedlaethol Sir Benfro gyda'i Lwybr Arfordirol trawiadol a'i draethau Baner Las yn darparu ystod o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau neu hamddena. Gyda'i chysylltiadau trafnidiaeth da, ysgolion o safon, a'r opsiwn o fyw mewn tref neu ardal wledig, mae gan Sir Benfro lawer i'w gynnig. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r labordy sydd wedi'i adnewyddu a'i foderneiddio yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd acíwt ac arferol ym maes Biocemeg, Haematoleg, Ceulo a Thrallwyso.  Ar hyn o bryd, mae gan yr adran Biocemeg ddadansoddwyr Roche Cobas 8000 sydd i gael eu 
huwchraddio yn y dyfodol agos. Mae'r adran hefyd yn cynnwys Capillarys a Hydrasys Sebia ar gyfer electrofforesis protein serwm ac wrin, dadansoddwr protein Optilite a Tosoh G8.

Dylai'r unigolyn feddu ar naill ai bortffolio Arbenigol y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol (yr IBMS) neu brofiad cyfatebol, a phrofiad ôl-gofrestru digonol i ymgymryd â rôl arbenigol yn yr Adran Biochemeg.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfathrebu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd a barn broffesiynol yn effeithiol i gyd-weithwyr a defnyddwyr y Gwasanaeth Patholeg ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 6 ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon wedi cyflawni Diploma Arbenigol.  Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar y diploma ar gyfer y rôl Band 6 hon i wneud cais, ac, os byddant yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol iddynt gyflawni'r cymhwyster dwy flynedd a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21.

Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 6, a'r ail flwyddyn yn 75%). Ar ôl llwyddo yn y Diploma Arbenigol yna bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 6 (pwynt isaf y raddfa). 

Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 6. Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 09/08/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd anrhydedd mewn Gwyddorau Biofeddygol/ Gwyddorau Bywyd
  • Diploma Arbenigol neu gymhwyster cyfatebol
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Tystiolaeth o DPP
  • Gwybodaeth am Sicrhau Ansawdd Patholeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol fel Gwyddonydd Biofeddygol Cofrestredig
  • Gwybodaeth fanwl am offeryniaeth labordy gymhleth
  • Gallu technegol i ddatrys problemau, atgyweirio, cynghori neu ddarparu gwybodaeth fanwl sy'n berthnasol i'r arbenigedd

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sasha Krol
Teitl y swydd
Biochemistry Section Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773293
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Richard Morton

01437 773293 neu ebost [email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg