Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Crefftwr Cynnal a Chadw, Mecanyddol
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Crefftwr Mecanyddol yn nhîm Cynnal a Chadw Gweithredol yr Ystadau ar y safle.
Bydd y Crefftwr Mecanyddol yn rhan o dîm sy'n sicrhau bod cyfarpar a gwasanaethau mecanyddol/trydanol/adeiladu yn cael eu cynnal a'u cadw at safon briodol ac yn cefnogi adrannau gwasanaethau clinigol o ran eu prif dasg o drin cleifion.
Bydd yr unigolyn a benodir yn cynorthwyo staff rheoli gweithredol y safle gyda'r gwaith cynnal a chadw peirianneg weithredol o ddydd i ddydd, a fydd yn cynnwys boeleri, systemau ager, nwyon meddygol, gwresogi, dŵr poeth, adeiladau, ac ati.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Sicrhau bod yr holl beiriannau, cyfarpar a gwasanaethau mecanyddol/trydanol yn sefydliadau'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn modd diogel ac effeithlon o ddydd i ddydd.
Bydd hyn yn gofyn am wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol drylwyr o ddull gweithredu amrywiaeth eang o beiriannau a gwasanaethau mecanyddol cymhleth, yn cynnwys peiriant y boeler, y peiriant awyru, caloriffyddion, systemau nwyon meddygol, systemau lifftiau teithwyr/nwyddau, ac ati, ynghyd â gwybodaeth sylfaenol am sgiliau
crefft eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 30/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant/prentisiaeth strwythuredig mewn gwasanaethau peirianneg fecanyddol
- Lefel BTEC/HND mewn Gwasanaethau Adeiladu neu brofiad perthnasol cyfatebol, ynghyd â City & Guilds Rhan II, neu NVQ Lefel III, neu brofiad perthnasol cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gymhwyso ar y safle
- Profiad o weithio ar ystod eang o osodiadau, peiriannau a chyfarpar mecanyddol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn amgylchedd ysbyty acíwt
- Profiad o weithio yn y GIG
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Malcolm Arnold
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773411
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â chynnwys y rôl at Mr Malcolm Arnold, Rheolwr Ystadau ar 01437 773411, neu Claus Schilke, Swyddog Cymorth Gweithredol ar 01437 773170.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector