Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Porthor Gwasanaethau Gwesty
- Gradd
- Band 2
- Contract
- Parhaol: Ar gael i gwmpasu oriau dros 7 diwrnod - a 24 awr y dydd
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Ar gael i gwmpasu oriau dros 7 diwrnod - a 24 awr y dydd)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-EA025-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Cynorthwy-ydd Cyfleusterau Meddal (Porter/Meysydd Parcio)
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Gwesty yn ceisio recriwtio tri unigolyn a hoffai ymuno ag adran brysur ac ymroddedig i ddarparu gwasanaethau porthora i gwmpasu'r holl wardiau ac adrannau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol yn y sefydliad.
Rydym yn awyddus i benodi Porthorion i ymuno â'n tîm sefydledig. Bydd hyn yn golygu bod ar gael i weithio shifftiau dydd a shifftiau nos, a bod yn hyblyg i newid shifftiau os oes angen i gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd gofyniad i chi weithio ar benwythnosau a gwyliau banc.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y dyletswyddau'n amrywio, ac yn cynnwys trosglwyddo cleifion rhwng wardiau/adrannau, trin gwastraff, ymateb i bryderon ynghylch diogelwch, a symud dodrefn. Bydd yna ddyletswyddau yn y corffdy hefyd.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyfforddiant llawn pan fyddant yn dechrau, a bydd hyn yn cynnwys Symud, Codi a Chario, Hyfforddiant Tân a hyfforddiant ar ddulliau atal. Bydd hyfforddiant hefyd ar ddefnyddio'r Ddesg Gymorth electronig.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 05.08.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn llythrennog a rhifog
- Iechyd a Diogelwch Sylfaenol, Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH), Symud, Codi a Chario a Hylendid Bwyd
Meini prawf dymunol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2
- Tystysgrif Cynllun Croeso
- Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, COSHH, Symud a Chodi a Chario
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
Meini prawf dymunol
- Profiad o waith porthora tebyg neu rywfaint o brofiad o ofalu
- Profiad o ddelio ag unigolion anodd neu dreisgar
- Hyfforddiant mewn dyletswyddau porthora tebyg
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n hyblyg yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
- Trwydded yrru yn ôl yr angen i yrru cerbydau'r Bwrdd Iechyd
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Evans
- Teitl y swydd
- Senior porter
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437773002
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
David Upward - Uwch Borthor - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector