Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapydd Galwedigaethol
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS176-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn bwriadu recriwtio Gweithwyr Cymorth Therapi Galwedigaethol Band 3 i ymuno â'n Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Strôc yn Sir Benfro.
Mae'r tîm cleifion mewnol acíwt yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a hynny ar draws wardiau meddygol, llawfeddygol, trawma a lliniarol. Gall cyfleoedd arbenigol gynnwys: anafiadau i'r asgwrn cefn, anafiadau i'r ymennydd, a phobl sydd wedi colli coes neu fraich. Mae'r tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio tuag at ethos adsefydlu gan ddilyn egwyddorion asesu cynnar i atal datgyflyru, cynyddu annibyniaeth weithredol ac ailsefydlu arferion dyddiol i alluogi cleifion i gael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn modd amserol.
Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm dynodedig i ddarparu gwasanaeth therapi galwedigaethol i wella iechyd a llesiant pobl sydd wedi dioddef strôc, yn unol â'r hyn a ddirprwyir gan therapyddion galwedigaethol.
Gallwch ddarparu'r gwasanaeth yng nghartrefi pobl neu'r ysbyty, gan adsefydlu pobl i fynd adref yn gynt. Gall hyn gynnwys gweithio gyda chyd-weithwyr neu ar eich pen eich hun.
Byddwch yn darparu gwasanaeth i grŵp cleientiaid dynodedig, yn seiliedig ar gyfarwyddyd ac arweiniad y therapydd galwedigaethol.
Mae'r tîm therapi galwedigaethol hefyd yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr ym maes Iechyd, yn yr Awdurdodau Lleol ac yn Sefydliadau'r Trydydd Sector i gyflawni'r canlyniadau gorau i'r grŵp cleientiaid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gweithio'n rhan o dîm dynodedig i ddarparu gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i wella iechyd a llesiant pobl, yn unol â'r hyn a ddirprwyir gan Therapyddion Galwedigaethol.
Darparu'r gwasanaeth mewn modd ac mewn lleoliad sy'n briodol i anghenion y grŵp cleientiaid, gan ddilyn canllawiau, protocolau, polisïau a llwybrau gofal cytunedig. Gall hyn gynnwys gweithio gyda chyd-weithwyr neu ar eich pen eich hun; gydag unigolion a grwpiau; yng nghartrefi pobl, mewn lleoliadau yn y gymuned ac mewn ysbytai.
Darparu gwasanaeth i grŵp cleientiaid dynodedig, yn seiliedig ar gyfarwyddyd ac arweiniad y therapydd galwedigaethol. Bydd hyn yn cynnwys cynnal asesiadau ac ymyraethau penodol yn annibynnol, yn rhan o gynllun gofal cyffredinol a ddirprwyir gan y Therapydd Galwedigaethol.
Cydweithio â staff o fudiadau Iechyd, o Awdurdodau Lleol ac o fudiadau'r Trydydd Sector i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Cefnogi gweithrediadau'r tîm, gan ddelio ag ymholiadau mewn modd priodol ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol sy'n berthnasol i'r rôl.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio yn Sir Benfro yn achlysurol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd rhan o'r rôl hefyd yn cynnwys darparu cymorth ar gyfer gweithrediadau'r tîm, sy'n golygu delio mewn modd priodol ag ymholiadau a chyflawni tasgau gweinyddol sy'n berthnasol i'r rôl, megis mewnbynnu data ac archwiliadau.
Mae'n bosibl y bydd disgwyl i'r rôl gyflawni gwasanaeth saith niwrnod hyblyg, yn seiliedig ar yr angen am y gwasanaeth.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 07.08.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn Cymorth Therapi Galwedigaethol, neu hyfforddiant, cymwysterau neu brofiad cyfatebol arall, neu brofiad Lefel 3 a pharodrwydd i gwblhau cymhwyster Lefel 3 perthnasol yn unol ag amserlen benodedig ar ôl cael eich penodi'n llwyddiannus
- Gwybodaeth am Therapi Galwedigaethol trwy brofiad a/neu hyfforddiant a gafwyd.
- Rhifedd a Llythrennedd hyd at lefel 2 o leiaf (TGAU neu gyfwerth)
- Sgiliau TG, ynghyd â gwybodaeth dda am raglenni Microsoft Office a phrofiad o'u defnyddio
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Hyfforddiant Asesydd Dibynadwy mewn cyfarpar ac addasiadau
- Gwybodaeth am flaenoriaethau ac arferion y Bwrdd Iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad diweddar o weithio mewn gwasanaeth therapi neu mewn maes perthnasol arall. Gall hyn gynnwys profiad gwirfoddol yn ogystal â phrofiad cyflogedig
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol
- Gweithio'n rhan o dîm
- Gweithio'n annibynnol
- Rheoli eich amser eich hun a blaenoriaethu gweithgareddau
- Cyfrannu at wella gwasanaethau
- Hunanddatblygiad a dysgu
Meini prawf dymunol
- Defnyddio technegau a addaswyd i wella annibyniaeth y claf
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir, h.y. Skype, Teams, Zoom
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lindsay Tarasconi
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 772353
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector